A77831:733
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cris. Nid oes gennym in awr, oddiar dwy Filltir o'r Tîr a reibiwyd, iw fined trosto: eithr dychwelwn at y matter oedd gennym in law. Nid yw'r Dynion anwybodus in deal fod yr argyoeddiadau yma, y sy 'n peri ofn a braw ynthynt (fod y rhain meddafi) er daioni iddynt; ac am hynny y maent in ceisio eu mogu hwynt.
Cris. Nid oes gennym yn awr, oddiar dwy Filltir o'r Tîr a reibiwyd, iw fyned trosto: eithr dychwelwn at y matter oedd gennym yn llaw. Nid yw'r Dynion anwybodus yn deall fod yr argyoeddiadau yma, y sy 'n peri ofn a braw ynthynt (fod y rhain meddafi) er daioni iddynt; ac am hynny y maent yn ceisio eu mogu hwynt.
Gob. Pa fodd y maent in ceisio eu mogu hwynt.
Gob. Pa fodd y maent yn ceisio eu mogu hwynt.
Cris. 1. Y maent in tybygu, mai'r Cythrael sy'n gweithio 'r dychryniadau hyn ynthynt, (er in ddiau oddiwrth Dduw y maent) ac o herwydd eu bod nhw'n tybied felly, y maent in eu gwrthsefyll, megis pethau y sydd in rhag-ddarparu eu dinistr hwynt. 2. Y maent hwy o'r opiniwn yma hefyd, fod y dychryniadau hyn, in tueddu, i an•heithio eu ffydd hwy, (pan nad oes ganthynt, druain gwyr, ffydd in y bid!) ac am hynny, y maent in caledu eu calonnau in eu herbyn hwynt. 3. Heblaw hyn, y maent in meddwl, na ddylent ofni un amser; ac am hynny, gan ddirmygu a thagu y cyfryw ddychryniadau, y maent in digwyddo i fod, in bobl rhyfygus, a thra hyderus, er nad oes ganthynt reswm in y bid am yr hither hynny. Ac in ddiweddaf, y maent in gweled, fod y dychryniadau hyn in rhag-ddarparu dwyn oddiarnynt eu gwael sancteiddrwydd eu hunain; ac am hynny, y maent in eu gwrth wynebu hwynt, ai holl *