A77831:85
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cris. Dychryn a barodd i mi ffoi y ford nessaf, ac felly mi a syrthiais yma.
Cris. Dychryn a barodd i mi ffoi y ffordd nessaf, ac felly mi a syrthiais yma.
Help. Moes i mi dy law ebe Helpwr, a Christian a rods iddo ef ei law: Ac efe a'i tynnodd ef ir Lan, ac a'i gosododd ef ar Dîr called, ac a barodd iddo gerdded ei ford ym-mlaen. Pal. 40. 2. Gwedi hynny mi a nesseais at yr hwn a'i tynnasai ef †i maes o'r Gors, ac a ofynnais iddo, Sir, gan fod y ford o Ddinas Destryw ir Porth accw trwy 'r Lle yma, pa ham nas cyweiriwyd y man hyn, mal y gallai *ymdeithwyr tlodion siwrneio tuag yno in †ddibryderach? Yntef a'm hattebodd, y mae 'r Gors front hon in gyfryw Le, nas gellir ei gwellháu hi: Canys ir Gwaelod hwn, y mae'r holl *Fudreddi y sydd in canlyn argyhoeddiad am bechod, in rhedeg i wared in wastadol; ac am hynny y ⟨p. 14⟩gelwir hi y Gors o Anobaith: Oblegit, er cynted ac y †deffroir Pechadur, i welled ei gyflwr colledig, y mae lawyer o Ddychryniadau ac Amhevon, a Meddyliau anghyssurus in cyfodi in fynych in ei Enaid ef; A'r rhain oll sy 'n ymgasglu ynghyd, ac in ymsefydlu in y man hwn: A thyma i chwi 'r rheswm, pa ham y mae 'r Lle yma cynddrwg. Nid ewyllys y *Brenin yw, fod y ford hon cynddrwg ac y mae hi, Isaiah 35. 3, 4. Ei weithwyr ef hefyd, trwy gyfarwyddiad y rhai oedd gan ei Fawrhydi ef in Olygwyr ar y brif-ford, a fuant er is mwy nag un-cant-ar-bymtheg o flynyddoedd in gweithio yma, i edrych a ellit cyweirio