A81597:113
Ymadroddion hen Mr. Dod
Ymadroddion hen Mr. Dod.
London? : s.n., 1693?
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
6. Ymegniwch i wneuthur crefydd in (t)hyfrydwch i chwi. Edrychwch in fynych ar Dduw, ar y Nefoedd, ar Grist, ar yr Yspryd, ar yr Addewidion, ar eich holl Drugareddau, ewch tros eich Profiadau. A meddyliwch pa achos o hyfrydwch uchel sydd sith o'ch blaen chwi, ac mor anweddaidd ydyw, ac mor niweidiol i'ch profess chwi ydyw, bod un yr hwn sydd in dywedyd, ei fod ef in gobeithio am y Nefoedd, etto in byw mor brûdd a'r rhai hynny nad oes ganddynt ddim gobaith uwch nà'r ddaiar. Diau y din hwnnw a ddylai fod in lawn o lawenydd, yr hwn a gaiff fyw in llawenydd y Nefoedd tros sith. In enwedig llawennychwch pan ydyw Cenhadau marwolaeth in dywedyd i chwi, fod eich llawenydd didrangc chwi in agos. Os nad ydyw Duw, a'r Nefoedd, gydâ ein holl drugareddau ni in y ford ya ddigon o reswm am fywyd llawen, nis gall fod yr un. Ffieiddiwch bob adroddiad yr hwn a fynnei wneuthur crefydd i ymddangos in suchedd blin prûdd. A chymerwch offal na osodoch chwi money allan felly i eraill, canys ni wnewch chwi monynt hwy sith, i fod mewn cariad â hynny, nad ydych chwi in ei wneuthur iddynt in hyfryd ac in hawddgar. Nid megis y Rhagrithŵr, trwy gymmell a llunio at ei feddwl a'i hyfrydwch cnawdol, and dwyn i fynu y gallon i gyttundeb sanctaidd ag hysrydwch crefydd.
6. Ymegniwch i wneuthur crefydd yn (t)hyfrydwch i chwi. Edrychwch yn fynych ar Dduw, ar y Nefoedd, ar Grist, ar yr Yspryd, ar yr Addewidion, ar eich holl Drugareddau, ewch tros eich Profiadau. A meddyliwch pa achos o hyfrydwch uchel sydd fyth o'ch blaen chwi, ac mor anweddaidd ydyw, ac mor niweidiol i'ch proffess chwi ydyw, bod un yr hwn sydd yn dywedyd, ei fod ef yn gobeithio am y Nefoedd, etto yn byw mor brûdd a'r rhai hynny nad oes ganddynt ddim gobaith uwch nà'r ddaiar. Diau y dyn hwnnw a ddylai fod yn llawn o lawenydd, yr hwn a gaiff fyw yn llawenydd y Nefoedd tros fyth. Yn enwedig llawennychwch pan ydyw Cenhadau marwolaeth yn dywedyd i chwi, fod eich llawenydd didrangc chwi yn agos. Os nad ydyw Duw, a'r Nefoedd, gydâ ein holl drugareddau ni yn y ffordd ya ddigon o reswm am fywyd llawen, nis gall fod yr un. Ffieiddiwch bob adroddiad yr hwn a fynnei wneuthur crefydd i ymddangos yn suchedd blin prûdd. A chymerwch ofal na osodoch chwi moni allan felly i eraill, canys ni wnewch chwi monynt hwy fyth, i fod mewn cariad â hynny, nad ydych chwi yn ei wneuthur iddynt yn hyfryd ac yn hawddgar. Nid megis y Rhagrithŵr, trwy gymmell a llunio at ei feddwl a'i hyfrydwch cnawdol, ond dwyn i fynu y galon i gyttundeb sanctaidd ag hysrydwch crefydd.