A81597:114
Ymadroddion hen Mr. Dod
Ymadroddion hen Mr. Dod.
London? : s.n., 1693?
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
7. Gwiliwch megis am eich Eneidiau in erbyn y bid hwn sydd in gwenhieithio ac in (u)temptio, in enwedig pan ydis in ei osod ef allan megis in fwy melus a hyfryd nâ Duw, a sancteiddrwydd, a'r Nefoedd. Y bid hwn gydà ei hyfrydwch, ei olud, ai anrhydedd, yw'r peth y mae Satan in rhoi in y clorian, in erbyn Duw, a sanchteiddrwydd, a'r Nefoedd. Ac ni chaiff neb well nag y mae efe in ei ddewis, a'i gyfrif in oreu. Mae'r abwyd in llithio y rhan anifeiliaidd, pan ydyw Rheswm in cyfgu. Ac os trwygymmorth y synhwyrau cnawdol y caiff y deyrngader, yr anifail a farchoga ac a reola 'r din; a rheswm aiff in gaeth-wâs ir awyddfryd gnawdol. Pan ydych in clywed y Sarph, gwelwch ei golyn ef, a gwelwch farwolaeth in canlyn y ffrwyth gwaharddedig. pan ydych in codi, edrychwch i wared, a gwelwch eich cwymp! Ei reswm ef in gystal a'i ffydd sydd in wan, yr hwn am y cyfryw ffoledd, megis rhwysc a gwagedd y bid, a feeder anghofio Duw ai enaid, a marwolaeth, a'r farn, Nefoedd ac uffern, je ac in ystyriol a orchymmyn iddynt sefyll heibio Pa wybodaeth neu brofiad all wneuthur daioni ar y din hwnnw, yr hwn a anturia cymmaint am y cyfryw fyd, yr hwn y mae pawb ac a'i profodd ef in ei alw in waged in y diwedd? Mor alarus gan hynny ydyw cyflwr din bydol? Oh ofnwch y bid pan fo in gwenu, neu in ymddangos in felus ⟨p. 37⟩ac in hawddgar. Na cherwch mono, os ydych in caru eich Duw a'ch Eneidiau.
7. Gwiliwch megis am eich Eneidiau yn erbyn y byd hwn sydd yn gwenhieithio ac yn (u)temptio, yn enwedig pan ydis yn ei osod ef allan megis yn fwy melus a hyfryd nâ Duw, a sancteiddrwydd, a'r Nefoedd. Y byd hwn gydà ei hyfrydwch, ei olud, ai anrhydedd, yw'r peth y mae Satan yn rhoi yn y clorian, yn erbyn Duw, a sanchteiddrwydd, a'r Nefoedd. Ac ni chaiff neb well nag y mae efe yn ei ddewis, a'i gyfrif yn oreu. Mae'r abwyd yn llithio y rhan anifeiliaidd, pan ydyw Rheswm yn cyfgu. Ac os trwygymmorth y synhwyrau cnawdol y caiff y deyrngader, yr anifail a farchoga ac a reola 'r dyn; a rheswm aiff yn gaeth-wâs ir awyddfryd gnawdol. Pan ydych yn clywed y Sarph, gwelwch ei golyn ef, a gwelwch farwolaeth yn canlyn y ffrwyth gwaharddedig. pan ydych yn codi, edrychwch i wared, a gwelwch eich cwymp! Ei reswm ef yn gystal a'i ffydd sydd yn wan, yr hwn am y cyfryw ffoledd, megis rhwysc a gwagedd y byd, a feder anghofio Duw ai enaid, a marwolaeth, a'r farn, Nefoedd ac uffern, ie ac yn ystyriol a orchymmyn iddynt sefyll heibio Pa wybodaeth neu brofiad all wneuthur daioni ar y dyn hwnnw, yr hwn a anturia cymmaint am y cyfryw fyd, yr hwn y mae pawb ac a'i profodd ef yn ei alw yn wagedd yn y diwedd? Mor alarus gan hynny ydyw cyflwr dyn bydol? Oh ofnwch y byd pan fo yn gwenu, neu yn ymddangos yn felus