A81597:118
Ymadroddion hen Mr. Dod
Ymadroddion hen Mr. Dod.
London? : s.n., 1693?
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
11. Bydded (b)amser in dra gwerthfawr in eich golwg chwi, ac in ofalus ac in ddiwŷd prynwch ef. Pa frŷs y mae efe in ei wneuthur? Ac mor fuan yr aiff heibio? Ac yna mor uchel y prifir ef, pan nad ellir sith alw in ôl un munud o hono? O pa Orchwyl pwysfawr sydd gennym ni i bob munud o'n hamser, ped faen ni in cael byw fill o flynyddoedd! Na chymmerwch fod y dŷn hwnnw in ei jawn bwyll, neu in adnabod ei Dduw, ei ddiwedd, ei waith, neu ei berygl, yr hwn ⟨p. 40⟩sydd ganddo amser iw hebcor. Prynwch yr amser nid in unic oddiwrth chwaravon, a chellwair, a seguryd, rhodres, a gormodedd o gysgu, siarad gwag, a bydoldeb, and hefyd oddiwrth rwystrau daioni lay, y rhai a'ch rhwystrau chwi oddiwrth ddaioni mwy. Treuliwch amser, megis dynion sydd in barod i fined i fyd arall ym mha le y bid rhaid cyfrif am bob munud o hono, ac y bid gydà ninny tros sith megis ac a buom ni fyw ymma; nedwch i jecnyd eich twyllo chwi i ddisgwyl byw in her, ac felly i ddiofalwch ansynniol. Gwelwch eich glass-awr in rhedeg, a chedwch gyfrif o'r amser yr ydych in ei d•eulio. A threuliwch ef in union megis ac y mynnech ei atgofio ef gwedi ei ddarfod.
11. Bydded (b)amser yn dra gwerthfawr yn eich golwg chwi, ac yn ofalus ac yn ddiwŷd prynwch ef. Pa frŷs y mae efe yn ei wneuthur? Ac mor fuan yr aiff heibio? Ac yna mor uchel y prifir ef, pan nad ellir fyth alw yn ôl un munud o hono? O pa Orchwyl pwysfawr sydd gennym ni i bob munud o'n hamser, ped faen ni yn cael byw fil o flynyddoedd! Na chymmerwch fod y dŷn hwnnw yn ei iawn bwyll, neu yn adnabod ei Dduw, ei ddiwedd, ei waith, neu ei berygl, yr hwn ⟨p. 40⟩sydd ganddo amser iw hebcor. Prynwch yr amser nid yn unic oddiwrth chwarauon, a chellwair, a seguryd, rhodres, a gormodedd o gysgu, siarad gwag, a bydoldeb, ond hefyd oddiwrth rwystrau daioni llai, y rhai a'ch rhwystrau chwi oddiwrth ddaioni mwy. Treuliwch amser, megis dynion sydd yn barod i fyned i fyd arall ym mha le y bydd rhaid cyfrif am bob munud o hono, ac y bydd gydà nyni tros fyth megis ac a buom ni fyw ymma; nedwch i iecnyd eich twyllo chwi i ddisgwyl byw yn hir, ac felly i ddiofalwch ansynniol. Gwelwch eich glas-awr yn rhedeg, a chedwch gyfrif o'r amser yr ydych yn ei deulio. A threuliwch ef yn union megis ac y mynnech ei atgofio ef gwedi ei ddarfod.