A81597:186
Ymadroddion hen Mr. Dod
Ymadroddion hen Mr. Dod.
London? : s.n., 1693?
Title page typeset from the transcription.
Catechism Byrr i'r rhai hynny a Ddyscasant y Cyntaf. › Cwest. 10.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. 10.
B•th ydyw 'r ymarfer hwnnw i'r hwn yr ydych in ymrwymo trwy 'r cyfammod hwn?
B•th ydyw 'r ymarfer hwnnw i'r hwn yr ydych yn ymrwymo trwy 'r cyfammod hwn?
Atteb.
In ôl cyfraith Nature, ac Athrawiaethau Christ rhaid i mi (gan chwennych perffeithrwydd) in bûr ufuddhau iddo ef mewn bywyd o ffydd, a gobaith, a chariad, gan garu Duw megis Duw, er ei fwyn ei hun uwchlaw pawb, a charu fy hun megis ei weinidog ef, in enwedig fy enaid, a cheisio ei sancteiddrwydd ai jechydwriaeth, a charu fy ngymydog megis mi fy hun. Rhaid i mi ochelyd pob deIw-addoliaeth meddwl neu gorph, ac rhaid i mi addoli Duw in ôl ei Air, trwy ddyscu a myfyrio ar ei air; trwy weddio, rhoddi diolch, a moliant, ac arferu ei Sacrament ef: Rhaid i mi arferu in sanctaidd ei enw sanctaidd ef ac nid ei halogi. Rhaid i mi gadw in sanctaidd did yr Arglwydd, in enwedig mewn cymmundeb gydâ chynulleidfaodd Eglwysig. Rhaid i mi anrhydeddu ac ufyddhau i'm Rhieni, Swyddogion, Bugeiliaid, a Rheolwyr eraill. Rhaid i mi ochelyd niweidio ⟨p. 62⟩fy ngymmodog, mewn meddwl, gair, neu weithred, in ei enaid, ei gorph, ei ddiweirdeb, ei ystâ, cyfiawnder, neu hawl; eithr gwneuthur iddo ef gytnmaint o ddaioni ac a allwyf, a gwneuthur i arall megis ac y mynnwn i arall wneuthur i mi yr hyn sydd wedi ei grynoi i fynu in y deg Gorchymyn. [Duw a lefarodd y geiriau hyn, &c.]