A85479:100
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Y mae ef in cyttuno or goreu â nature y Cythrael, in gymmaint a bôd yspryd celwyddog in yspryd cythreulig; ac y mae 'r celwydd og in dwyn gwîr lûn a delw Diafol, Yr hwn yw tâd y celwydd, Joh, 8. 44.
2. Y mae ef yn cyttuno or goreu â nattur y Cythrael, yn gymmaint a bôd yspryd celwyddog yn yspryd cythreulig; ac y mae 'r celwydd og yn dwyn gwîr lûn a delw Diafol, Yr hwn yw tâd y celwydd, Joh, 8. 44.
3. Y mae ef in tynnnu i lawr farnedigaethau ofnadwy a dialled Duw, a hynny in amserol in y bŷd hwn, ac in dragwyddol in y bid a ddaw. I brwfio hyn, deliwch sulw in gyffredinol beth a ddywaid Dafydd, Psal. 5. 6. Duw a ddifetha y rhai a ddywedant gelwydd. In fwy neillduol am farnedigaethau amserol in y bŷd ymma, y mae y Prophwyd Hosea (Pen. 4. 2, 3.) in cyfrif celwydd ym mhlith y pechodau gorthrwm hynny, a barasant i Dduw anfon Newyn, Haint, Cleddyf, Caethglûd, a barnedigaethau eraill ar yr Israeliaid. Am farnedigaethau tragwyddol, ninny a'n cawn hwynt hefyd wedi eu bygwth in erbyn y pechod ymma in Dat. 21. 27. Fe gyfrifir celwydd ym mysc y pechodau hynny sy in cau allan o'r nefoedd. Ac in Dat. 21. 8. Fe gyfrifir ym mhlith y pechodau hynny ar sy in ein tâflu ni i uffern, And ir rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puttein-wŷr, a'r swyn-gyfareddwŷr, a'r eulyn-addolwŷr, a'r holl gelwydd-wŷr, y bid eu rhan in y llyn sydd in llosci â thân a brwmstan. Ac ymma daliwn sulw ym mhellach, ym mysc pa bechaduriaid echryslon y cyfrifir celwydd-wŷr, self, ym mysc Llofruddion, Putteinwyr, Eulynaddolwyr a'r cyffebyb, yr hyn sy in dangos echryslonder y pechod hwn.
3. Y mae ef yn tynnnu i lawr farnedigaethau ofnadwy a dialedd Duw, a hynny yn amserol yn y bŷd hwn, ac yn dragwyddol yn y byd a ddaw. I brwfio hyn, deliwch sulw yn gyffredinol beth a ddywaid Dafydd, Psal. 5. 6. Duw a ddifetha y rhai a ddywedant gelwydd. Yn fwy neillduol am farnedigaethau amserol yn y bŷd ymma, y mae y Prophwyd Hosea (Pen. 4. 2, 3.) yn cyfrif celwydd ym mhlith y pechodau gorthrwm hynny, a barasant i Dduw anfon Newyn, Haint, Cleddyf, Caethglûd, a barnedigaethau eraill ar yr Israeliaid. Am farnedigaethau tragwyddol, nyni a'n cawn hwynt hefyd wedi eu bygwth yn erbyn y pechod ymma yn Dat. 21. 27. Fe gyfrifir celwydd ym mysc y pechodau hynny sy yn cau allan o'r nefoedd. Ac yn Dat. 21. 8. Fe gyfrifir ym mhlith y pechodau hynny ar sy yn ein tâflu ni i uffern, Ond ir rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puttein-wŷr, a'r swyn-gyfareddwŷr, a'r eulyn-addolwŷr, a'r holl gelwydd-wŷr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosci â thân a brwmstan. Ac ymma daliwn sulw ym mhellach, ym mysc pa bechaduriaid echryslon y cyfrifir celwydd-wŷr, sef, ym mysc Llofruddion, Putteinwyr, Eulynaddolwyr a'r cyffebyb, yr hyn sy yn dangos echryslonder y pechod hwn.