Fell y jelly di ochelyd pechod in well, cymmer hyn o gyfarwyddiadau. 1. Cais ochelyd yr holl achosion a'r moddion, ar a ddichon dy ddenu a'th dynnu i bechod. Ammhossibl yw gochelyd y nail heb y llall. Nid yw bossibl ir sawl sy in dueddol at feddwdod ymgadw rhagddo ef, oddieithr iddo ochelyd lleoedd a chymdeithas y meddwon: Nid yw chwaith in bossibl ir hwn fydd drythyll ymattal ⟨p. 25⟩oddiwrth frynti ac aflendid, os cŷrch ef in fynych i gymdeithas anniwair, a byw mewn glothineb a meddwdod 2. Os gosodir arnat, gwrthwyneba bechod in y dechreu. Gochel gellwair neu chwareu â themptasiwnau, megis y mae 'r pryf â fflam y ganwyll, rhag dy losgi in ddiarwybod. Pechod ysgatfydd a ymddengys ar y cyntaf in fûl ac in anhŷf, ac in gywilyddgar, ac ni ddaw i mewn cyn iddo guro wrth ddrŵs dy gydwybod di; and os rhoddi le iddo▪ a gado 'r ford in rhydd, heb ei gau ef allan, buan yr aiff ef in gyfeillgar, jë ac y tyrr ef i mewn arnat ti in ddisymmwth ac in ddirybydd. Y ford oreu gan hynny i ymgadw rhag pechod yw, cyn gynted ac y cynnhygio ef ddyfod i mewn, cau drŵs dy gallon in ei erbyn, a'i droi 'n ôl ag wynebprŷd digllon. 3. Os goddiweddir dt gan bechod in y bŷd, gwna dy oreu ar gael o honot yr oruchafiaeth arno cyn gynted fŷth ac y bo possibl, drwy wîr a diffuant edifeirwch, a thrwy fined drachefn i ymolchi in y ffynnon o waed Christ, a thrwy ymrwymo dy hun o newydd, mewn uniondeb calon, i fôd in fwy gwiliadwrus arnat dy hun rhagllaw. Bid ofalus na byddech di fyw, ac nad arhosech in ddiedifeiriol in yr arferiad o un pechod in erbyn dy gydwybod; canys cyhyd a hynny yr wit ti in gwisgo lifrai 'r Diafol, ac in ddieithrol i wîr heddwch. 4. Darfyddo i ti gael y maes neu 'r oruchafieth, gwilia rhag ail gwympo. Peryglus yw adglafychiad mewn clefydau corphorol, mwy o lawyer mewn rhai ysprydol: ac am hynny y rhoddes Christ y cyngor hwn ir dŷn clôff, yr hwn a jachaodd ef wrth lynn Bethesda, Na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth, Joan. 5. 14.
Fel y gelli di ochelyd pechod yn well, cymmer hyn o gyfarwyddiadau. 1. Cais ochelyd yr holl achosion a'r moddion, ar a ddichon dy ddenu a'th dynnu i bechod. Ammhossibl yw gochelyd y naill heb y llall. Nid yw bossibl ir sawl sy yn dueddol at feddwdod ymgadw rhagddo ef, oddieithr iddo ochelyd lleoedd a chymdeithas y meddwon: Nid yw chwaith yn bossibl ir hwn fydd drythyll ymattal ⟨p. 25⟩oddiwrth frynti ac aflendid, os cŷrch ef yn fynych i gymdeithas anniwair, a byw mewn glothineb a meddwdod 2. Os gosodir arnat, gwrthwyneba bechod yn y dechreu. Gochel gellwair neu chwareu â themptasiwnau, megis y mae 'r pryf â fflam y ganwyll, rhag dy losgi yn ddiarwybod. Pechod ysgatfydd a ymddengys ar y cyntaf yn fûl ac yn anhŷf, ac yn gywilyddgar, ac ni ddaw i mewn cyn iddo guro wrth ddrŵs dy gydwybod di; ond os rhoddi le iddo▪ a gado 'r ffordd yn rhydd, heb ei gau ef allan, buan yr aiff ef yn gyfeillgar, ië ac y tyrr ef i mewn arnat ti yn ddisymmwth ac yn ddirybydd. Y ffordd oreu gan hynny i ymgadw rhag pechod yw, cyn gynted ac y cynnhygio ef ddyfod i mewn, cau drŵs dy galon yn ei erbyn, a'i droi 'n ôl ag wynebprŷd digllon. 3. Os goddiweddir dt gan bechod yn y bŷd, gwna dy oreu ar gael o honot yr oruchafiaeth arno cyn gynted fŷth ac y bo possibl, drwy wîr a diffuant edifeirwch, a thrwy fyned drachefn i ymolchi yn y ffynnon o waed Crist, a thrwy ymrwymo dy hun o newydd, mewn uniondeb calon, i fôd yn fwy gwiliadwrus arnat dy hun rhagllaw. Bydd ofalus na byddech di fyw, ac nad arhosech yn ddiedifeiriol yn yr arferiad o un pechod yn erbyn dy gydwybod; canys cyhyd a hynny yr wyt ti yn gwisgo lifrai 'r Diafol, ac yn ddieithrol i wîr heddwch. 4. Darfyddo i ti gael y maes neu 'r oruchafieth, gwilia rhag ail gwympo. Peryglus yw adglafychiad mewn clefydau corphorol, mwy o lawer mewn rhai ysprydol: ac am hynny y rhoddes Crist y cyngor hwn ir dŷn clôff, yr hwn a iachaodd ef wrth lynn Bethesda, Na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth, Joan. 5. 14.