A85479:109
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Hyn sy in rhoddi braint a phris ar eich holl weithredoedd chwi, po mwyaf y tueddant at y diben ymma, goreu ydynt, a mwyaf in rhyngu bôdd Duw. Gwir yw, y mae 'n ammhosibl i ddŷn, in y bywyd hwn, in wastadol gyfeirio at, a bwriadu gogoniant Duw ym mhôb gweithred neilltuol ar a wnelo; etto fe ddylai o lwyr-fryd calon amcanu at hynny. A siccr yw, y mae gydâ 'r gwir gristion in yr achos ymma, megis gydâ gŵr sy in teithio neu in siwrneio tuâ rhyw Dref, y boreu ei weithredol fwriad ef yw mined ir cyfryw dref, ai amcan sydd ar fôd in ill a'r lle erbyn y nôs, ac am hynny y mae 'n cychwyn neu in dechreu mined tuag atto; ac er nad yw ef in meddwl am ill y mae 'n mined iddo ar bôb cam a gerddo; etto y mae 'r lle felly in ei feddyliau ef, fell y dalio in ⟨p. 23⟩y ford tuag atto: yr un ffunyd y mae y gwir Gristion, er nad yw ef ym mhôb gweithred neilltuol a gymero mewn law, â'i olwg in wastadol ar ogoniant Duw; etto prif-fwriad ac ergyd ei yspryd ef yw, ar fôd gogohiant Duw in ddiben eithaf a phennaf ei holl weithredoedd ef, fell y gogonedder Duw drwyddynt.
2. Hyn sy yn rhoddi braint a phris ar eich holl weithredoedd chwi, po mwyaf y tueddant at y diben ymma, goreu ydynt, a mwyaf yn rhyngu bôdd Duw. Gwir yw, y mae 'n ammhosibl i ddŷn, yn y bywyd hwn, yn wastadol gyfeirio at, a bwriadu gogoniant Duw ym mhôb gweithred neilltuol ar a wnelo; etto fe ddylai o lwyr-fryd calon amcanu at hynny. A siccr yw, y mae gydâ 'r gwir gristion yn yr achos ymma, megis gydâ gŵr sy yn teithio neu yn siwrneio tuâ rhyw Dref, y boreu ei weithredol fwriad ef yw myned ir cyfryw dref, ai amcan sydd ar fôd yn y lle a'r lle erbyn y nôs, ac am hynny y mae 'n cychwyn neu yn dechreu myned tuag atto; ac er nad yw ef yn meddwl am y lle y mae 'n myned iddo ar bôb cam a gerddo; etto y mae 'r lle felly yn ei feddyliau ef, fel y dalio yn ⟨p. 23⟩y ffordd tuag atto: yr un ffunyd y mae y gwir Gristion, er nad yw ef ym mhôb gweithred neilltuol a gymero mewn llaw, â'i olwg yn wastadol ar ogoniant Duw; etto prif-fwriad ac ergyd ei yspryd ef yw, ar fôd gogohiant Duw yn ddiben eithaf a phennaf ei holl weithredoedd ef, fel y gogonedder Duw drwyddynt.