A85479:119
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Cais ochelyd in ofalus gyfeillach a chymdeithas dynion annuwiol: fy meddwl i yw, cymdeithas agos, ry-gû, a chyfeillach afreidiol â hwynt; canys offerynnau 'r cythrael ydynt hwy, i ddenu ac i dynnu rhai i bôb mâth o bechod a drygioni. Canys er nad ydynt in dy gael in debyg iddynt eu hunain, etto os ymgyfeillechi in fynych â hwynt, hwy a'th wnânt di in fuan in gyfryw un ac ydynt hwythau, Dihar. 13. 20.
5. Cais ochelyd yn ofalus gyfeillach a chymdeithas dynion annuwiol: fy meddwl i yw, cymdeithas agos, ry-gû, a chyfeillach afreidiol â hwynt; canys offerynnau 'r cythrael ydynt hwy, i ddenu ac i dynnu rhai i bôb mâth o bechod a drygioni. Canys er nad ydynt yn dy gael yn debyg iddynt eu hunain, etto os ymgyfeillechi yn fynych â hwynt, hwy a'th wnânt di yn fuan yn gyfryw un ac ydynt hwythau, Dihar. 13. 20.
6. Na hydera ddim arnat dy hun, ac na ryfyga ar dy nerth dy hun, y bid i ti ymgadw rhag pechod, fell yr hyderodd Pedr ⟨p. 26⟩arno ei hunan in y matter hwn, rhag i ti gwympo fell y gwnaeth yntef: Eithr bid eiddigus o'th wendid dy hun, a'th barodrwydd i gwympo; canys hyn a'th wnaiff in ofalus i ochelyd pôb achlysur, a themptasiwnau i bechod, ac i edrych i fynu at yr Arglwydd am nerth i sefyll in y did drwg, yr hyn y ganniattâ efe in ewyllysgar in ôl ei addewid, ir rhai a ddisgwyliant wrtho, Isaiah. 40. 29, 30, 31.
6. Na hydera ddim arnat dy hun, ac na ryfyga ar dy nerth dy hun, y bydd i ti ymgadw rhag pechod, fel yr hyderodd Pedr ⟨p. 26⟩arno ei hunan yn y matter hwn, rhag i ti gwympo fel y gwnaeth yntef: Eithr bydd eiddigus o'th wendid dy hun, a'th barodrwydd i gwympo; canys hyn a'th wnaiff yn ofalus i ochelyd pôb achlysur, a themptasiwnau i bechod, ac i edrych i fynu at yr Arglwydd am nerth i sefyll yn y dydd drwg, yr hyn y ganniattâ efe yn ewyllysgar yn ôl ei addewid, ir rhai a ddisgwyliant wrtho,