A85479:130
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In ail y mae un Pechod anwyl in y fynwes in dieithro 'r gallon cyn belled, fell na allo hi garu Christ fell y dylei: Megis ac y mae ûn estron ym mynwes gwraig, in dwyn ymmaith ei search hi, fell na allo hi garu ei gŵr megis ac y dylei. Yr ydym ni in darllain in yr Efangylwŷr, fôd ûn trachwant o gybydd-dod in Judas, ûn trachwant o ymlosgach in Herod, ûn trachwant bydol in y gŵr goludog, in grŷf ddigon, i attal pob un o honynt oddiwrth Grist. Megis gan hynny yr wit ti in chwennych cael hawl in Ghrist, cadw gadwraeth enwedigol in erbyn dy bechod anwyl, na thynno hwnnw mo'th gallon ymmaith oddiwrtho ef.
Yn ail y mae un Pechod anwyl yn y fynwes yn dieithro 'r galon cyn belled, fel na allo hi garu Crist fel y dylei: Megis ac y mae ûn estron ym mynwes gwraig, yn dwyn ymmaith ei serch hi, fel na allo hi garu ei gŵr megis ac y dylei. Yr ydym ni yn darllain yn yr Efangylwŷr, fôd ûn trachwant o gybydd-dod yn Judas, ûn trachwant o ymlosgach yn Herod, ûn trachwant bydol yn y gŵr goludog, yn grŷf ddigon, i attal pob un o honynt oddiwrth Grist. Megis gan hynny yr wyt ti yn chwennych cael hawl yn Ghrist, cadw gadwraeth enwedigol yn erbyn dy bechod anwyl, na thynno hwnnw mo'th galon ymmaith oddiwrtho ef.
Ith gynnorthwyo di in erbyn dy bechod anwyl.
Ith gynnorthwyo di yn erbyn dy bechod anwyl.
1. Myfyria 'n ddifrifol ar ffrwythau chwerwon, a diwedd ofnadwy y pechod. Er y dichon dy bechod fôd in felus wrth ei wneuthur, etto fe fydd in chwerw in y diwedd. Canys y mae 'n rhaid i ûn o'r daubeth hyn i ganlyn ef, nail a'i chwerwder Edifeirwch, neu chwerwder cospedigaeth. In awr deved y goreu y ddichon dyfod ar ôl pechod, self, dy fôd ti in edifarhau am dano i jechydwriaeth; etto tristwch chwerw, wylofain chwerw, a galar chwerw ydyw ei ddiwedd ef. Eithr o biddy di heb edifeirwch am dy bechod, yna y canlyn chwerwder marwolaeth, a damnedigaeth gydâ 'r Diafol a'r Damnedig in nhân uffern in dragwyddol. Y mae gennym ni ymadrodd cyffredinol in ein mysc, Ni cheir y melus heb y