A85479:136
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Er gallu o honom ni guddio ein dirgel bechodau allan o olwg dynion, etto y mae 'n ammhossibl eu cuddio hwynt oddiwrth lygad Duw, yr hwn sy in gweled pob peth, ac ynteu ei hun heb neb in ei welled; in bresennol ym mhôb lle, In canfod y drygionus ar daionus, Dihar. 15. 3. llofruddiaeth a godineb Dafydd a ddygwyd ym mlaen in ddirgel jawn, er hynny yr oeddynt in weledig i lygaid Duw, Ti a wnaethost hyn (ebe Duw) in ddirgel, and myfi a'th gospaf di 'n gyhoeddus. Os mini di (medd Austin) bechu in ddirgel, cais fan lle ni welo Duw dydi, ac yno gwnâ a fynnecb. Eithr gan fôd Duw in bresennol ym mhôb man, mae in ammhossibl ⟨p. 31⟩gallu o honot guddio dy bechodau o ŵydd ei lygad ef sy in canfod pob peth oll.
2. Er gallu o honom ni guddio ein dirgel bechodau allan o olwg dynion, etto y mae 'n ammhossibl eu cuddio hwynt oddiwrth lygad Duw, yr hwn sy yn gweled pob peth, ac ynteu ei hun heb neb yn ei weled; yn bresennol ym mhôb lle, Yn canfod y drygionus ar daionus, Dihar. 15. 3. llofruddiaeth a godineb Dafydd a ddygwyd ym mlaen yn ddirgel iawn, er hynny yr oeddynt yn weledig i lygaid Duw, Ti a wnaethost hyn (ebe Duw) yn ddirgel, ond myfi a'th gospaf di 'n gyhoeddus. Os mynni di (medd Austin) bechu yn ddirgel, cais fann lle ni welo Duw dydi, ac yno gwnâ a fynnecb. Eithr gan fôd Duw yn bresennol ym mhôb mann, mae yn ammhossibl ⟨p. 31⟩gallu o honot guddio dy bechodau o ŵydd ei lygad ef sy yn canfod pob peth oll.
3. Megis ac y mae Duw ymma in canfod, ac in dal sulw ar dy bechodau dirgelaf, felly ar ryw amser neu ei gilydd efe a ddatguddia weithredoedd y tywyllwch hynny, ith ddirfawr wradwydd di, heb wir edifeirwch; Oni bid hynny ymma in y bywyd hwn, etto fe fydd ar did y farn, pan ddatguddier ein pechodau dirgelaf yngŵydd pawb oll, Preg. 12. 14. Duw a ddŵg bôb gweithred i farn, a phôb peth dirgel, pan bynnag fyddo ai da ai drŵg. Ina y datcuddir dy holl-ddirgel bechodau di i Angelion, dynion a chythreuliaid; dy ddirgel aflendid, a'th gnddiedig odineb, dy waith in ysgyflio neu 'n chwiwo, a'th ladradau, dy bwysau a'th fesurau anghywir a ddygir lle y gwelo pawb, ith gywilydd a'th wrath tragwyddol. Pe byddei ein calonnau ni wedi eu llenwi â'r ystyriaeth hon, Oh! mor wiliadwrus y gwnai hyn ni arnom ein hunain in y dirgel, a pha faith arswyd y fyddei ynom rhag anturio ar bechod in y bŷd, er bod gennym odfa iw wneuthur ef in y dirgel?