A85479:159
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Pan wneler eich Difyrrwch in gelfyddyd o farsiandiaeth, megis pan chwarevo dynion in unic o ran ynnill arian: Yr hyn a ennillo dŷn wrth y fasnach ymma, ni all ef moi feddiannu a'i fwynhau â chydwybod dda. Ni roddwyd mo hono iddo ef gan Dduw, am na ddaeth ef o hŷd iddo drwy foddion cyfreithlon, eithr in hytrach y mae ef megis da lladrad, ûwch ben y rhai y mae melltith ⟨p. 37⟩Dduw in crogi. A'r sawl sy in colli, mae yntef hefyd in evog o ladrad, canys yr hyn y mae in ei golly, ei ddwyn y mae oddiar ei wraig, ei blant, a'i deulu, od oes rhai ganddo; neu onid oes, oddiar yr Eglwys, y Wladwriaeth a'r tlodion. Nid ydym ni in Arglwyddi ar ein golud, eithr in Oruchwyl-wŷr, a rhaid i ni roddi cyfrif am danynt. Och nad ystyriai yr holl chwareu-wŷr, pa gyfrif ofnadwy fydd iddynt iw roddi did y farn, nid in unic am eu hamser gwerthfawr a gamdreulir in afradlonus, and hefyd am eu golud a gollwyd gan mwyaf mewn môdd ddrygionus; pan gaffer in en cyfrif hwynt, fôd cymmaint wedi ddifrodi mewn chwareyddiaeth, a chin lleied wedi ei roddi ir tlodion, ac i weithredoedd o eluseni!
2. Pan wneler eich Difyrrwch yn gelfyddyd o farsiandiaeth, megis pan chwareuo dynion yn unic o ran ynnill arian: Yr hyn a ennillo dŷn wrth y fasnach ymma, ni all ef moi feddiannu a'i fwynhau â chydwybod dda. Ni roddwyd mo hono iddo ef gan Dduw, am na ddaeth ef o hŷd iddo drwy foddion cyfreithlon, eithr yn hytrach y mae ef megis da lladrad, ûwch ben y rhai y mae melltith ⟨p. 37⟩Dduw yn crogi. A'r sawl sy yn colli, mae yntef hefyd yn euog o ladrad, canys yr hyn y mae yn ei golli, ei ddwyn y mae oddiar ei wraig, ei blant, a'i deulu, od oes rhai ganddo; neu onid oes, oddiar yr Eglwys, y Wladwriaeth a'r tlodion. Nid ydym ni yn Arglwyddi ar ein golud, eithr yn Oruchwyl-wŷr, a rhaid i ni roddi cyfrif am danynt. Och nad ystyriai yr holl chwareu-wŷr, pa gyfrif ofnadwy fydd iddynt iw roddi ddydd y farn, nid yn unic am eu hamser gwerthfawr a gamdreulir yn afradlonus, ond hefyd am eu golud a gollwyd gan mwyaf mewn môdd ddrygionus; pan gaffer yn en cyfrif hwynt, fôd cymmaint wedi ddifrodi mewn chwareyddiaeth, a chyn lleied wedi ei roddi ir tlodion, ac i weithredoedd o eluseni!