A85479:169
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And etto rhaid yw cymmeryd gofal in hyn, tra yr ydych in dyfal ddilyn gorchwylion eich galwedigaeth ar y nail law, na bo i chwi gael eich gorddiwes â chwantau bydol, ac â chybydd-dod ar y law arall; ac am hynny mi a roddaf i chwi ddau o Ocheliadau.
Ond etto rhaid yw cymmeryd gofal yn hyn, tra yr ydych yn dyfal ddilyn gorchwylion eich galwedigaeth ar y naill llaw, na bo i chwi gael eich gorddiwes â chwantau bydol, ac â chybydd-dod ar y llaw arall; ac am hynny mi a roddaf i chwi ddau o Ocheliadau.
1. Na fydd in dilyn mo'th Alwedigaeth neilltuol mor ddyfal, ac yr esceulusech Ddyledswyddau dy alwedigaeth cyffredinol, fell yr wit ti in Gristion: Fy meddwl yw, na fydd mor haerllug in dilyn dy negesevau a'th orchwylion bydol, ac yr esceulusech dy ddyledswyddau ysprydol, megis dy forevol a'th brydnawnol ddefosiwnau i Dduw, a'r cyffelyb. Er bod in rhydd i ti dreulio y rhan fwyaf o bôb diwrnod o'r chwech, in dy negesevon a'th orchwylion bydol, etto ti a ddylit dreulio rhyw gyfran o bôb diwrnod mewn gorchwylion ysprydol, drwy y rhai y bid dy uegesevon bydol gwedi eu pereiddio a'u sancteiddio in well. Pan ddelych i orwedd ar dy welyaugeu, ac edrych o honot in ôl at dy fuchedd, yna yr hyn o amser a hepcoraist oddiwrth dy negesevon bydol, ac a dreuliaist mewn gweddi, darllen, gwrando, myfyrio a'r cyffelyb, a ddwg i ti fwyaf o ddiddanwch.
1. Na fydd yn dilyn mo'th Alwedigaeth neilltuol mor ddyfal, ac yr esceulusech Ddyledswyddau dy alwedigaeth cyffredinol, fel yr wyt ti yn Gristion: Fy meddwl yw, na fydd mor haerllug yn dilyn dy negeseuau a'th orchwylion bydol, ac yr esceulusech dy ddyledswyddau ysprydol, megis dy foreuol a'th brydnawnol ddefosiwnau i Dduw, a'r cyffelyb. Er bod yn rhydd i ti dreulio y rhan fwyaf o bôb diwrnod o'r chwech, yn dy negeseuon a'th orchwylion bydol, etto ti a ddylit dreulio rhyw gyfran o bôb diwrnod mewn gorchwylion ysprydol, drwy y rhai y bydd dy uegeseuon bydol gwedi eu pereiddio a'u sancteiddio yn well. Pan ddelych i orwedd ar dy welyaugeu, ac edrych o honot yn ôl at dy fuchedd, yna yr hyn o amser a hepcoraist oddiwrth dy negeseuon bydol, ac a dreuliaist mewn gweddi, darllen, gwrando, myfyrio a'r cyffelyb, a ddwg i ti fwyaf o ddiddanwch.