A85479:17
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Am anfeidrol burdeb Duw, yr hwn sydd lanach ei iygaid nag y gall edrych ar anwiredd gydâ 'r bodlonrwydd lleiaf; eithr y mae ef in casáu pôb pechod â châs cyflawn megis yr hyn sy 'n wrthwyneb iw naturiaeth ef ⟨p. 2⟩Difrifol ystyriaeth o hyn a fyddei, trwy fendith Duw, in rymmyslawn i ddarostwng y meddyliau aflan ar sy in arferol o godly o'th gallon lygredig di.
I. Am anfeidrol burdeb Duw, yr hwn sydd lanach ei iygaid nag y gall edrych ar anwiredd gydâ 'r bodlonrwydd lleiaf; eithr y mae ef yn casáu pôb pechod â châs cyflawn megis yr hyn sy 'n wrthwyneb iw naturiaeth ef ⟨p. 2⟩Difrifol ystyriaeth o hyn a fyddei, trwy fendith Duw, yn rymmyslawn i ddarostwng y meddyliau aflan ar sy yn arferol o godi o'th galon lygredig di.
2. Am Hollalluogrwydd Duw, drwy yr hwn y mae ef in abl i gyflawni dy holl ddiffygion, i'th gynnal dan dy holl brofiadau a phrofedigaethau, ac i'th ddwyn drwy dy holl orchwylion. Difrifol ystyriaeth o hyn ni ddichon amgen na'th gynnhyrfui di, megis i redeg at Dduw mewn gweddi in dy holl ddiffygion a'th gyfyngderau, felly hefyd i fwrw dy hun arno ef a'i allu, am gymmorth ac ymwared cyfamserol, yr hwn bight ni phalla ar cyfryw ray a ymddiriedant ynddo.
2. Am Hollalluogrwydd Duw, drwy yr hwn y mae ef yn abl i gyflawni dy holl ddiffygion, i'th gynnal dan dy holl brofiadau a phrofedigaethau, ac i'th ddwyn drwy dy holl orchwylion. Difrifol ystyriaeth o hyn ni ddichon amgen na'th gynnhyrfui di, megis i redeg at Dduw mewn gweddi yn dy holl ddiffygion a'th gyfyngderau, felly hefyd i fwrw dy hun arno ef a'i allu, am gymmorth ac ymwared cyfamserol, yr hwn byth ni phalla ar cyfryw rai a ymddiriedant ynddo.