A85479:170
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Na fydd in dilyn mo'th Alwedigaeth neilltuol mor ddyfal, ac yr esceulusech Ddyledswyddau dy alwedigaeth cyffredinol, fell yr wit ti in Gristion: Fy meddwl yw, na fydd mor haerllug in dilyn dy negesevau a'th orchwylion bydol, ac yr esceulusech dy ddyledswyddau ysprydol, megis dy forevol a'th brydnawnol ddefosiwnau i Dduw, a'r cyffelyb. Er bod in rhydd i ti dreulio y rhan fwyaf o bôb diwrnod o'r chwech, in dy negesevon a'th orchwylion bydol, etto ti a ddylit dreulio rhyw gyfran o bôb diwrnod mewn gorchwylion ysprydol, drwy y rhai y bid dy uegesevon bydol gwedi eu pereiddio a'u sancteiddio in well. Pan ddelych i orwedd ar dy welyaugeu, ac edrych o honot in ôl at dy fuchedd, yna yr hyn o amser a hepcoraist oddiwrth dy negesevon bydol, ac a dreuliaist mewn gweddi, darllen, gwrando, myfyrio a'r cyffelyb, a ddwg i ti fwyaf o ddiddanwch.
1. Na fydd yn dilyn mo'th Alwedigaeth neilltuol mor ddyfal, ac yr esceulusech Ddyledswyddau dy alwedigaeth cyffredinol, fel yr wyt ti yn Gristion: Fy meddwl yw, na fydd mor haerllug yn dilyn dy negeseuau a'th orchwylion bydol, ac yr esceulusech dy ddyledswyddau ysprydol, megis dy foreuol a'th brydnawnol ddefosiwnau i Dduw, a'r cyffelyb. Er bod yn rhydd i ti dreulio y rhan fwyaf o bôb diwrnod o'r chwech, yn dy negeseuon a'th orchwylion bydol, etto ti a ddylit dreulio rhyw gyfran o bôb diwrnod mewn gorchwylion ysprydol, drwy y rhai y bydd dy uegeseuon bydol gwedi eu pereiddio a'u sancteiddio yn well. Pan ddelych i orwedd ar dy welyaugeu, ac edrych o honot yn ôl at dy fuchedd, yna yr hyn o amser a hepcoraist oddiwrth dy negeseuon bydol, ac a dreuliaist mewn gweddi, darllen, gwrando, myfyrio a'r cyffelyb, a ddwg i ti fwyaf o ddiddanwch.
2. Ymegnia ar fôd â meddyliau nefol in dy orchmylion ⟨p. 40⟩daiarol. Dilyn dy negesevon bydol â serchiadau ysprydol, gan dderchafu dy gallon in fynych at Dduw mewn rhyw nefol faethiadan neu weddiau byrrion. Je, gwna dy oreu, ar wneuthur rhyw ddefnydd o'r amser yr wit in dilyn gorchwylion dy alwedigaeth ynddo, fell y caffech ryw elw ysprydol, drwy ryw fyfyrdodau buddiol; in enwedig os bid dy orchwyl in gyfryw un, ag sy in gosod y law, ac nid y pen ar waith. Fell yr wit ti in awchus in dilyn dy negesevon bydol, myfyria in fynych ar yr ymadrodd rhagorol hwnnw o'r eiddo 'n Achubwr,