A85479:200
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Cais ochel in fwyaf ac y gallech gymdeithas dynion annuwiol a halogedig, in enwedig y cyfryw ac sydd watwarwŷr duwioldeb a chrefydd. 1. O herwydd bod in hawdd jawn ein llygru ni â gwenwyndra eu pechodau hwynt; y cyfryw bŷg a ddiwyna ein dillad ni. 2. O herwydd ein bôd ni drwy hynny mewn perygl o'n hamgylchu in eu pláau amserol hwynt. 3. O herwydd drwy hynny yr annogwn ac yr hyfâwn hwynt in eu ffyrdd ddrygionus ac halogedig; Canys annogaeth fawr i ddynion annuwiol i fined ym mlaen in eu helyntiau drygionus a phechadurus, yw, pan gaffont gymdeithas y duwiol i gydsynnied â hwynt.
2. Cais ochel yn fwyaf ac y gallech gymdeithas dynion annuwiol a halogedig, yn enwedig y cyfryw ac sydd watwarwŷr duwioldeb a chrefydd. 1. O herwydd bod yn hawdd iawn ein llygru ni â gwenwyndra eu pechodau hwynt; y cyfryw bŷg a ddiwyna ein dillad ni. 2. O herwydd ein bôd ni drwy hynny mewn perygl o'n hamgylchu yn eu pláau amserol hwynt. 3. O herwydd drwy hynny yr annogwn ac yr hyfâwn hwynt yn eu ffyrdd ddrygionus ac halogedig; Canys annogaeth fawr i ddynion annuwiol i fyned ym mlaen yn eu helyntiau drygionus a phechadurus, yw, pan gaffont gymdeithas y duwiol i gydsynnied â hwynt.
In awr o ran dy gymhwyso a'th baratoi dy hun in well, i ymdrîn â chymdeithion in fuddiol tra fy'ch in eu plith, myfi a roddaf i ti y ddau gyngor hyn in unig.
Yn awr o ran dy gymhwyso a'th baratoi dy hun yn well, i ymdrîn â chymdeithion yn fuddiol tra fy'ch yn eu plith, myfi a roddaf i ti y ddau gyngor hyn yn unig.
1. Fell y gallech fod wedi 'th ddarparu 'n well â matter buddiol i ymddiddan in ei gylch, Myfyria in fynych ac in ddifrifol am ryw brif-bwngc cyffredinol o'r grefydd gristianogol, megis am ein truenus a'n gresynol gyflwr wrth naturiaeth, am holl-ddigonolrwydd aberth Christ, am waged ac ansiccrwydd pob peth daiarol, am fyrdra y bywyd hwn, am did y Farn, neu 'r cyffelyb. Drwy fynych fyfyrio ar y pethau hyn neu 'r cyffelyb rhyngot â thy dy hun in y dirgel, y gwneir di in aplach i chwedleva âc ymddiddan am danynt yngwydd eraill, a hynny er daioni ac adeiladaeth iddyut hwy, in gystal ac i tidy hun.