A85479:204
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ar ôl rhagosod y pethau hyn sut ymma, dewn in awr at yr Hyfforddiadau o ran dy lywodraethu dy hun in jawn, pan fyddech mewn cwmpeini; y rhai a osodaf ar lawr. 1. In fwy cyffredinol. 2. In fwy neilltuol, o ran dy ymddygiad mewn cwmpeini da, ac mewn cwmpeini drwg. A'r Hyfforddiadau cyffredinol yw y rhain.
Ar ôl rhagosod y pethau hyn sut ymma, dewn yn awr at yr Hyfforddiadau o ran dy lywodraethu dy hun yn iawn, pan fyddech mewn cwmpeini; y rhai a osodaf ar lawr. 1. Yn fwy cyffredinol. 2. Yn fwy neilltuol, o ran dy ymddygiad mewn cwmpeini da, ac mewn cwmpeini drwg. A'r Hyfforddiadau cyffredinol yw y rhain.
I. Bydded dy ymddygiad â'th ymarweddiad in ostyngedig, gan fod in ewyllysgar i gyfrannu dy gynghorion, a'th gyssurau, a'th brofiadau ir Cristianogion tlottaf a gwaelaf, ac i dderbyn cyfran o'u cynghorion a'u cyssurau, a'u profiadau hwynt; heb fod in ddiystyr gennyt ddysgu dim ar sydd dda gan y rhai sydd ym mhêll îs dy law di, megis ac ni ddiystyrodd Apollos i gael ei ddyscu gan Aquila a Phriscilla, Act. 18. 26.
I. Bydded dy ymddygiad â'th ymarweddiad yn ostyngedig, gan fod yn ewyllysgar i gyfrannu dy gynghorion, a'th gyssurau, a'th brofiadau ir Cristianogion tlottaf a gwaelaf, ac i dderbyn cyfran o'u cynghorion a'u cyssurau, a'u profiadau hwynt; heb fod yn ddiystyr gennyt ddysgu dim ar sydd dda gan y rhai sydd ym mhêll îs dy law di, megis ac ni ddiystyrodd Apollos i gael ei ddyscu gan Aquila a Phriscilla, Act. 18. 26.
II. In dy holl ymdriniaeth â dynion, cais fod in frwythlon ac in llesol i tidy hun, ac i eraill, drwy dderbyn a gwneuthur yr holl ddaioni a ellych.