A85479:216
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Bid ofalus na byddech gyfrannog o'u pechodau hwynt; Yr hwn yw 'r Cyngor a ddyru yr Apostol, Ephes. 5. 11. Na fydded i chwi gŷd-gyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch. Ei feddwl yw, na byddei iddynt hwy mewn un mod gymdeithasu, neu fôd in gyfrannogion â'u pechodau hwynt, y rhai a eilw ef Gweithredoedd y tywyllwch.
II. Bydd ofalus na byddech gyfrannog o'u pechodau hwynt; Yr hwn yw 'r Cyngor a ddyru yr Apostol, Ephes. 5. 11. Na fydded i chwi gŷd-gyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch. Ei feddwl yw, na byddei iddynt hwy mewn un modd gymdeithasu, neu fôd yn gyfrannogion â'u pechodau hwynt, y rhai a eilw ef Gweithredoedd y tywyllwch.
Cwest. Pa fodd y gellir dywedyd ein bôd ni in gŷdgyfrannogion âg eraill in eu pechodau?
Cwest. Pa fodd y gellir dywedyd ein bôd ni yn gŷdgyfrannogion âg eraill yn eu pechodau?
Mae dynion in gyfrannogion o bechodau rhai eraill, megis drwy annog i bechu, felly hefyd drwy gŷd-ymfodloni â'i pechod hwynt. Dynion a ymfodlonant i bechodau rhai eraill in amlwg, neu in ddirgel: In amlwg ar Air, neu Weithred.
Mae dynion yn gyfrannogion o bechodau rhai eraill, megis drwy annog i bechu, felly hefyd drwy gŷd-ymfodloni â'i pechod hwynt. Dynion a ymfodlonant i bechodau rhai eraill yn amlwg, neu yn ddirgel: Yn amlwg ar Air, neu Weithred.