A85479:224
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O ran yr uniawn fodd i gyflawni y ddyledswydd hon, rhaid yw dal ar ryw Reolau Cyffredinol, a rhai Neilltuol hefyd, in ol amryw amgylchiadau. Rheolau Cyffredinol yw y rhain,
O ran yr uniawn fodd i gyflawni y ddyledswydd hon, rhaid yw dal ar ryw Reolau Cyffredinol, a rhai Neilltuol hefyd, yn ol amryw amgylchiadau. Rheolau Cyffredinol yw y rhain,
1. Y sawl a geryddo arall, rhaid iddo dderchafu ei gallon at Dduw mewn gweddi, ar iddo ef felly gyfarwyddo ei Dafod ef, a chynnhyrfu calon y llall, fell y byddo ei gerydd ef in fuddiol iddo. Canys heb fendith Dduw, ni bid ein holl rybuddion a'n ceryddon and geiriau a leferir wrth yr awyr.
1. Y sawl a geryddo arall, rhaid iddo dderchafu ei galon at Dduw mewn gweddi, ar iddo ef felly gyfarwyddo ei Dafod ef, a chynnhyrfu calon y llall, fel y byddo ei gerydd ef yn fuddiol iddo. Canys heb fendith Dduw, ni bydd ein holl rybuddion a'n ceryddon ond geiriau a leferir wrth yr awyr.
2. Rhaid yw i'n cerydd gael ei wneuthur mewn cariad, gan fwriadu daioni ein brawd in hynny, ac nid ei ammarch er dim. Canys megis ag y llefara 'r Apostol, 1 Cor. 16. 14. Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad; ac megis yr holl bethau, felly in enwedigol y peth ymma o gerydd. Tu ag at am Reolau Neilltuol, rhaid yw ystyried ystâd a chyflwr y Ceryddwr, a'r Ceryddol, a chynneddfen y pechod, ynghŷd â'r amser a'r lle hefyd.
2. Rhaid yw i'n cerydd gael ei wneuthur mewn cariad, gan fwriadu daioni ein brawd yn hynny, ac nid ei ammarch er dim. Canys megis ag y llefara 'r Apostol,