A85479:226
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Rhaid yw i'n cerydd gael ei wneuthur mewn cariad, gan fwriadu daioni ein brawd in hynny, ac nid ei ammarch er dim. Canys megis ag y llefara 'r Apostol, 1 Cor. 16. 14. Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad; ac megis yr holl bethau, felly in enwedigol y peth ymma o gerydd. Tu ag at am Reolau Neilltuol, rhaid yw ystyried ystâd a chyflwr y Ceryddwr, a'r Ceryddol, a chynneddfen y pechod, ynghŷd â'r amser a'r lle hefyd.
2. Rhaid yw i'n cerydd gael ei wneuthur mewn cariad, gan fwriadu daioni ein brawd yn hynny, ac nid ei ammarch er dim. Canys megis ag y llefara 'r Apostol, 1 Cor. 16. 14. Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad; ac megis yr holl bethau, felly yn enwedigol y peth ymma o gerydd. Tu ag at am Reolau Neilltuol, rhaid yw ystyried ystâd a chyflwr y Ceryddwr, a'r Ceryddol, a chynneddfen y pechod, ynghŷd â'r amser a'r lle hefyd.
1. Rhaid yw ystyried ystâd a chyflwr y Ceryddwr. Megis y mae gan y rhai sydd âg awdurdod ganthynt fwy o ryddid i argyoeddi a cheryddu, felly os ydynt i ymdrin â throseddwyr drygfawr hynodol, yna hwy a allant, a rhaid yw iddynt geryddu,
1. Gyd âg awdurdod, fall y cynghora 'r Apostol, Argyoedda gydâ phob awdurdod, Tit. 2. 15.
1. Gyd âg awdurdod, fal y cynghora 'r Apostol, Argyoedda gydâ phob awdurdod, Tit. 2. 15.