A85479:23
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Pan ganfyddech noethni dy gorph, digged hynny ar gôf i tidy bechod, yr hwn a barodd i ti in gyntaf gywilyddio oi blegit. Canys cyn iddynt bechu, nid oedd cywilydd ar ein henafiaid cyntaf oblegit eu noethni, Gen. 2. 25. A pha fôdd y dylaei yr ystyriaeth o hynny dy gynnhyrsu di, in ddifrifol i hiraethu am y wisg o gyfiawnder Christ, i gael dy wisgo â hi, yr hon a'th wnaiff di in garueidd ac in anwyl yngolwg Duw, Dat. 3. 18.
I. Pan ganfyddech noethni dy gorph, dyged hynny ar gôf i ti dy bechod, yr hwn a barodd i ti yn gyntaf gywilyddio oi blegit. Canys cyn iddynt bechu, nid oedd cywilydd ar ein henafiaid cyntaf oblegit eu noethni, Gen. 2. 25. A pha fôdd y dylaei yr ystyriaeth o hynny dy gynnhyrsu di, yn ddifrifol i hiraethu am y wisg o gyfiawnder Christ, i gael dy wisgo â hi, yr hon a'th wnaiff di yn garueidd ac yn anwyl yngolwg Duw, Dat. 3. 18.
2. Bydded ith godiad o'th wely dy goffau di, megis am yr adgyfodiad o farwolaeth pechod, i fywyd o râs ymma; felly hefyd am adgyfodiad dy gorph allan o'r bêdd i fywyd tragwyddol y did diweddaf, pan bo 'n rhaid i ti ac i bawb o honom ymddangos gar bron y Barnwr mawr, i roddi cyfrif am babeth bynnag a wnaethom ni ymma.
2. Bydded ith godiad o'th wely dy goffau di, megis am yr adgyfodiad o farwolaeth pechod, i fywyd o râs ymma; felly hefyd am adgyfodiad dy gorph allan o'r bêdd i fywyd tragwyddol y dydd diweddaf, pan bo 'n rhaid i ti ac i bawb o honom ymddangos gar bron y Barnwr mawr, i roddi cyfrif am ba beth bynnag a wnaethom ni ymma.
3. Bydded i oleuni 'r did ddwyn ar gôf i ti Jesus Grist, yr hwn in fynych in yr Scrythur a elwir in Oleuni, je y gwir Oleuni.