A85479:243
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Edrych i fynu at Dduw, a meddwl in fynych am dano ef megis awdwr a rhoddwr yr holl bethau daionus yr wit ti ⟨p. 53⟩in eu mwynhau. Darfyddo i ti gael golud, na ddywaid, Hyn a gefais i drwy fy noethineb a'm callineb fy bun: Canys pa nifer o ddynion a chanddynt gymmaint dealldwriaeth a doethineb ac sydd gennit titheu, nid oes ganddynt ddegwm dy ystâd ath gyfoeth di? Na ddywaid chwaith, Hyn a gefais i drwy fy mhoen a'm llafur a'm hegni fy hunan; Canys pa nifer o ddynion a fuont mor ddiwyd a thitheu, ac etto ni chowsant hwy cymmaint o ffynniant ac a gefaist di? Ac am hynny dywaid gydâ Jôb, Hyn a roddodd yr Arglwydd, Job 1. 21.
I. Edrych i fynu at Dduw, a meddwl yn fynych am dano ef megis awdwr a rhoddwr yr holl bethau daionus yr wyt ti ⟨p. 53⟩yn eu mwynhau. Darfyddo i ti gael golud, na ddywaid, Hyn a gefais i drwy fy noethineb a'm callineb fy bun: Canys pa nifer o ddynion a chanddynt gymmaint dealldwriaeth a doethineb ac sydd gennit titheu, nid oes ganddynt ddegwm dy ystâd ath gyfoeth di? Na ddywaid chwaith, Hyn a gefais i drwy fy mhoen a'm llafur a'm hegni fy hunan; Canys pa nifer o ddynion a fuont mor ddiwyd a thitheu, ac etto ni chowsant hwy cymmaint o ffynniant ac a gefaist di? Ac am hynny dywaid gydâ Jôb, Hyn a roddodd yr Arglwydd, Job 1. 21.
II. Bendithia Dduw am yr hyn sydd gennit: Medd yr Apostol, Ym mhob dim diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw in Ghrist Jesus tu ac attoch chwi, 1 Thes. 5. 18. Hynny yw, hyn yw'r peth a arwyddocáodd yr Arglwydd drwy ei fab Jesus Ghrist i fod in ewyllys iddo, ac mewn rhyw fôdd yr hyn oll y mae ef in ei ofyn gennym ni am yr holl drugareddau a dderbyniwn ni oddiwrtho ef. Ac am hynny fell yr wit ti in derbyn dim trugaredd a bendith oddiwrth Dduw, na phalla o roddi iddo y moliant ar gogoniant am hynny.