A85479:244
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Bendithia Dduw am yr hyn sydd gennit: Medd yr Apostol, Ym mhob dim diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw in Ghrist Jesus tu ac attoch chwi, 1 Thes. 5. 18. Hynny yw, hyn yw'r peth a arwyddocáodd yr Arglwydd drwy ei fab Jesus Ghrist i fod in ewyllys iddo, ac mewn rhyw fôdd yr hyn oll y mae ef in ei ofyn gennym ni am yr holl drugareddau a dderbyniwn ni oddiwrtho ef. Ac am hynny fell yr wit ti in derbyn dim trugaredd a bendith oddiwrth Dduw, na phalla o roddi iddo y moliant ar gogoniant am hynny.
II. Bendithia Dduw am yr hyn sydd gennit: Medd yr Apostol, Ym mhob dim diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yn Ghrist Jesu tu ac attoch chwi, 1 Thes. 5. 18. Hynny yw, hyn yw'r peth a arwyddocáodd yr Arglwydd drwy ei fab Jesu Ghrist i fod yn ewyllys iddo, ac mewn rhyw fôdd yr hyn oll y mae ef yn ei ofyn gennym ni am yr holl drugareddau a dderbyniwn ni oddiwrtho ef. Ac am hynny fel yr wyt ti yn derbyn dim trugaredd a bendith oddiwrth Dduw, na phalla o roddi iddo y moliant ar gogoniant am hynny.
III. Cais ganfod cariad enwedigol Duw tu ac▪ attat ti mewn trugareddau cyffredinol. Canys pa ddaioni a wnaiff mwyniant a gaffech di o ddim i ti, oni fedri ganfod trugaredd Dduw tu agattat, in gystal ai helaethrwydd, in y peth?
III. Cais ganfod cariad enwedigol Duw tu ac▪ attat ti mewn trugareddau cyffredinol. Canys pa ddaioni a wnaiff mwyniant a gaffech di o ddim i ti, oni fedri ganfod trugaredd Dduw tu agattat, yn gystal ai helaethrwydd, yn y peth?