A85479:246
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. Pa fodd y gallaf wybod fod y trugareddau hynny oddiallan yr wyfi in eu mwynhau wedi eu cyfrannu i mi mewn cariad a ffafor?
Cwest. Pa fodd y gallaf wybod fod y trugareddau hynny oddiallan yr wyfi yn eu mwynhau wedi eu cyfrannu i mi mewn cariad a ffafor?
At. 1. Os ydynt in ennyn dy gallon â chariad i Dduw, gan berry i ti ei garu ef in fwy, o herwydd iddo fôd mor haelionus tu ag attat. Canys Rheol siccr yw hwn, Beth bynnag a baro gariad, oddtwrth gariad y mae in dyfod. Hola gan hynny a ddarfu ir pethau da ymma oddiallan yr wit ti mor helaeth in eu mwynhau, weithio dy gallon di i wîr gariad i Dduw; canys os felly y bu, yna y jelly dy siccrhau dy hun ddarfod eu cyfrannu hwynt i ti mewn cariad; a thy a eli edrych arnynt megis arwyddion o gariad a ffafor enwedigol Duw.
Att. 1. Os ydynt yn ennyn dy galon â chariad i Dduw, gan beri i ti ei garu ef yn fwy, o herwydd iddo fôd mor haelionus tu ag attat. Canys Rheol siccr yw hwn, Beth bynnag a baro gariad, oddtwrth gariad y mae yn dyfod. Hola gan hynny a ddarfu ir pethau da ymma oddiallan yr wyt ti mor helaeth yn eu mwynhau, weithio dy galon di i wîr gariad i Dduw; canys os felly y bu, yna y gelli dy siccrhau dy hun ddarfod eu cyfrannu hwynt i ti mewn cariad; a thi a elli edrych arnynt megis arwyddion o gariad a ffafor enwedigol Duw.
2. Os cei di ynot dy hun ewyllysgarwch i anrbydeddu Duw in arfer y pethau daionus hynny a dderbyniaist di oddiwrtho, drwy roddi allan gyfran o honynt tu ag at gynnal addollad ⟨p. 54⟩Duw, neu tuagat gynnorthwyo tlodion Duw, yna mae gennyt siccrwydd cyssurlawn ddarfod eu cyfrannu hwynt i ti mewn cariad.