A85479:250
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Gwilia rhag cael dy chwythu i fynu gan falchder, a chais fod in ostyngedig dan helaethdra; bod in issel in dy feddyliau dy hun, pan wit ti in uchel in y bŷd; yr hyn in ddiau a fydd dy ogoniant; canys harddwisg yw gostyngeiddrwydd, fell y mae 'r Apostol Petr in arwyddocau dan yr ymadrodd hwnnw, 1 Pet. 5. 5. Ymdrwsiwch â gostyngeiddrwydd, megis â harddwisg. Llaweroedd a dybiant may darostyngiad yw gostyngeiddrwydd, and yspryd Duw sy in ei gyfrif in harddwch. Am hynny medd yr Apostol Jaco, Llawenyched▪ y cyfoethog in ei ddarostyngiad, Jac. 1. 10. Hynny yw, Llawenyched in ei ostyngeiddrwydd, o herwydd rhoddi o Dduw iddo ef gallon isel a gostyngedig, er maint ei sawredd ai olud in y bŷd, am fod ganddo feddwl isel, mewn cyflwr uchel; canys clôd gwŷr cyfoethogion yw, pan wnaeth Duw hwynt in uchel in y bŷd, eu bôd bwythau in isel ac in ostyngedig in eu meddyliau eu hunain.
IV. Gwilia rhag cael dy chwythu i fynu gan falchder, a chais fod yn ostyngedig dan helaethdra; bod yn issel yn dy feddyliau dy hun, pan wyt ti yn uchel yn y bŷd; yr hyn yn ddiau a fydd dy ogoniant; canys harddwisg yw gostyngeiddrwydd, fel y mae 'r Apostol Petr yn arwyddocau dan yr ymadrodd hwnnw, 1 Pet. 5. 5. Ymdrwsiwch â gostyngeiddrwydd, megis â harddwisg. Llaweroedd a dybiant mai darostyngiad yw gostyngeiddrwydd, ond yspryd Duw sy yn ei gyfrif yn harddwch. Am hynny medd yr Apostol Jaco, Llawenyched▪ y cyfoethog yn ei ddarostyngiad, Jac. 1. 10. Hynny yw, Llawenyched yn ei ostyngeiddrwydd, o herwydd rhoddi o Dduw iddo ef galon isel a gostyngedig, er maint ei sawredd ai olud yn y bŷd, am fod ganddo feddwl isel, mewn cyflwr uchel; canys clôd gwŷr cyfoethogion yw, pan wnaeth Duw hwynt yn uchel yn y bŷd, eu bôd bwythau yn isel ac yn ostyngedig yn eu meddyliau eu hunain.