A85479:253
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
VII. Cyfranna allan o'th ystôr tu ag at gyfreidiau eraill. Fell y mae rhoddi ir tlawd in ddyledswydd sy in sefyll ar bawb ar sy mewn gallu, felly in enwedigol ar y rhai goludog. Am hynny y mae yr Apostol Paul in ewyllyssio i Timotheus Orchymmyn ir rhai sy oludog in y bid ymma, ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da. &c. 1 Tim. 6. 17, 18.
VII. Cyfranna allan o'th ystôr tu ag at gyfreidiau eraill. Fel y mae rhoddi ir tlawd yn ddyledswydd sy yn sefyll ar bawb ar sy mewn gallu, felly yn enwedigol ar y rhai goludog. Am hynny y mae yr Apostol Paul yn ewyllyssio i Timotheus Orchymmyn ir rhai sy oludog yn y byd ymma, ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da. &c. 1 Tim. 6. 17, 18.
I'ch bywiogi chwi in well ir Ddyledswydd hon, ystyriwch y ddau Reswm ymma.
I'ch bywiogi chwi yn well ir Ddyledswydd hon, ystyriwch y ddau Reswm ymma.
1. Hwn yw diben enwedigol Duw in rhoddi ychwaneg i ray nag i eraill, fell y byddei ir rhai sydd ganddynt fwy o helaethrwydd gyfrannu allan o hwnnw ir rhai sydd mewn eisiau. Hyn y mae Saint Paul (2 Cor. 8. 14, 15.) in ei gasglu oddiwrth gyfranniad y Manna, (Exod. 16. 18.) Canys y rhai a gasclasant fwy nag oedd in angenrheidiol iddynt eu hunain a'u teuluoed, a roesant o'u helaethrwydd ir rhai oedd heb ddigon.