A85479:260
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Gwnâ dy oreu ar fôd in fodlon i'th ystâd, gan may dyna y rhan a ordeiniodd Duw i ti; ac na rwgnach in erbyn ei Ragluniaeth ef, o herwydd nad oes gennyt gerdod helaethach; yr hwn yw cyngor yr Apostol Paul, O bid gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny, 1. Tim. 6. 8.
I. Gwnâ dy oreu ar fôd yn fodlon i'th ystâd, gan mai dyna y rhan a ordeiniodd Duw i ti; ac na rwgnach yn erbyn ei Ragluniaeth ef, o herwydd nad oes gennyt gerdod helaethach; yr hwn yw cyngor yr Apostol Paul, O bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny, 1. Tim. 6. 8.
Cwest. Ym mha beth y mae'r bodlonrwydd hwn in sefyll?
Cwest. Ym mha beth y mae'r bodlonrwydd hwn yn sefyll?
Atteb. In dwyn eich meddyliau i lawr at eich ystâd a'ch cyflwr presennol. Mawr gamgymmeriad bagad yw, ei bod hwy in tybied may mewn helaethrwydd y mae y bodlonrwydd ymma in sefyll, in codi eu hystâd i fynu ir cyfryw bennod, gan feddwl y byddent hwy yno in fodlon; lle-mewn gwirionedd y mae gwir fodlonrwydd in hyttrach in sefyll mewn cyhydedd, cyfattebwch a chydweddwch rhwng ystâd gwr a'i feddwl, efe yw 'r gŵr bodlongar, yr hwn y mae ei feddwl a'i ddymuniad in sefyll in gydwedd â'i ystâd.
Atteb. Yn dwyn eich meddyliau i lawr at eich ystâd a'ch cyflwr presennol. Mawr gamgymmeriad bagad yw, ei bod hwy yn tybied mai mewn helaethrwydd y mae y bodlonrwydd ymma yn sefyll, yn codi eu hystâd i fynu ir cyfryw bennod, gan feddwl y byddent hwy yno yn fodlon; lle-mewn gwirionedd y mae gwir fodlonrwydd yn hyttrach yn sefyll mewn cyhydedd, cyfattebwch a chydweddwch rhwng ystâd gwr a'i feddwl, efe yw 'r gŵr bodlongar, yr hwn y mae ei feddwl a'i ddymuniad yn sefyll yn gydwedd â'i ystâd.