A85479:262
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Atteb. In dwyn eich meddyliau i lawr at eich ystâd a'ch cyflwr presennol. Mawr gamgymmeriad bagad yw, ei bod hwy in tybied may mewn helaethrwydd y mae y bodlonrwydd ymma in sefyll, in codi eu hystâd i fynu ir cyfryw bennod, gan feddwl y byddent hwy yno in fodlon; lle-mewn gwirionedd y mae gwir fodlonrwydd in hyttrach in sefyll mewn cyhydedd, cyfattebwch a chydweddwch rhwng ystâd gwr a'i feddwl, efe yw 'r gŵr bodlongar, yr hwn y mae ei feddwl a'i ddymuniad in sefyll in gydwedd â'i ystâd.
Atteb. Yn dwyn eich meddyliau i lawr at eich ystâd a'ch cyflwr presennol. Mawr gamgymmeriad bagad yw, ei bod hwy yn tybied mai mewn helaethrwydd y mae y bodlonrwydd ymma yn sefyll, yn codi eu hystâd i fynu ir cyfryw bennod, gan feddwl y byddent hwy yno yn fodlon; lle-mewn gwirionedd y mae gwir fodlonrwydd yn hyttrach yn sefyll mewn cyhydedd, cyfattebwch a chydweddwch rhwng ystâd gwr a'i feddwl, efe yw 'r gŵr bodlongar, yr hwn y mae ei feddwl a'i ddymuniad yn sefyll yn gydwedd â'i ystâd.
O ran perswadio y rhai Tlodion in well ir ddyledswydd hon o fodlonrwydd, mi a osodaf ar lawr ychydig o Ystyriaethau.
O ran perswadio y rhai Tlodion yn well ir ddyledswydd hon o fodlonrwydd, mi a osodaf ar lawr ychydig o Ystyriaethau.
1. Fod y rhai sydd ganddynt ymborth a dillad digonol, in mwynhau cymmaint ag y mae 'r dynion cyfoethoccaf ar sy ar y ddaiar: ar yr hyn y dywaid yr Apostol in ill a grybwyllwyd am dano or blaen, O bid gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny, 1 Tim. 6. 8. Er meddu o ddŷn fwy nâ mwy o dda 'r bŷd ymma, er hynny nid yw ef in mwynhau ddim mwy o honynt nag y mae ei hun in ei fwytta ac in ei yfed, ac in ei wisco, canys y cwbl ⟨p. 58⟩