A85479:267
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Gwnâ dy oreu ar fôd in gyfoethog mewn grâs; je po •lottaf wit ti o ran dy bwrs, cais fod o hynny in gyfoethoccach mewn grass, ac yna ni bid dy dlodi bydol in ddim rhwystr i'th ysprydol oruchafiaeth, and in hwylusder neu gynnorthwy, in gymmaint ai fod in dy roddi di mewn gwell cyflwr; gan welled may Tlodion y bid hwn, yw y rhai y mae'r Arglwydd in arferol oi gwneuthur in gyfoethogion mewn ffydd, ac in etifeddion o'i deyrnas, Jac. 2. 5. A mynych y darllennwn, mai'r Tlodion a dderbyniasant yr Efengyl, nid in unic y tlodion in yr yspryd, and y tlodion ⟨p. 59⟩hefyd mewn pwrs. Ac am hynny er bod dy gyflwr oddiallan in dlawd ac in wael, etto gwybŷdd dy fôd mor gymmwys i dderbyn grâs ymma, a gogoniant hefyd ar ôl hyn, ag yw neb arall pwy bynnag. Ymgynhyrfa gan hynny drwy weddi wresog, dyfal ddarllen, a mynych wrando y Gair, i gynnyddu mewn grâs, je i gynnyddu in gyfoethog mewn grâs, fell y gallech er dy fod in dlawd ymma, fôd in etifedd y Nefoedd er hynny, a phan fyddech farw, y derbynnier di gydâ Lazarus i fynwes Abraham.
II. Gwnâ dy oreu ar fôd yn gyfoethog mewn grâs; ie po •lottaf wyt ti o ran dy bwrs, cais fod o hynny yn gyfoethoccach mewn gras, ac yna ni bydd dy dlodi bydol yn ddim rhwystr i'th ysprydol oruchafiaeth, ond yn hwylusder neu gynnorthwy, yn gymmaint ai fod yn dy roddi di mewn gwell cyflwr; gan weled mai Tlodion y byd hwn, yw y rhai y mae'r Arglwydd yn arferol oi gwneuthur yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion o'i deyrnas, Jac. 2. 5. A mynych y darllennwn, mai'r Tlodion a dderbyniasant yr Efengyl, nid yn unic y tlodion yn yr yspryd, ond y tlodion ⟨p. 59⟩hefyd mewn pwrs. Ac am hynny er bod dy gyflwr oddiallan yn dlawd ac yn wael, etto gwybŷdd dy fôd mor gymmwys i dderbyn grâs ymma, a gogoniant hefyd ar ôl hyn, ag yw neb arall pwy bynnag. Ymgynhyrfa gan hynny drwy weddi wresog, dyfal ddarllen, a mynych wrando y Gair, i gynnyddu mewn grâs, ie i gynnyddu yn gyfoethog mewn grâs, fel y gallech er dy fod yn dlawd ymma, fôd yn etifedd y Nefoedd er hynny, a phan fyddech farw, y derbynnier di gydâ Lazarus i fynwes Abraham.