A85479:289
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau in Gristianogaidd, dygwch hwynt gydag ymynedd a distawrwydd, in ôl ecsampl Dafydd, yr hwn pan osododd Duw ei law ar ei gefn ef, ynteu in ebrwydd a osododd ei law ar ei enau, fell yr ymddengys wrth ei ymadrodd ef ei hun, Aethum in fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn, Psal. 39. 9.
2. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau yn Gristianogaidd, dygwch hwynt gydag ymynedd a distawrwydd, yn ôl ecsampl Dafydd, yr hwn pan osododd Duw ei law ar ei gefn ef, ynteu yn ebrwydd a osododd ei law ar ei enau, fel yr ymddengys wrth ei ymadrodd ef ei hun, Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn, Psal. 39. 9.
Y goddefgar ddistaw ddygiad ymma ar gystuddiau a osodir in wrthwyneb i daubeth. 1. I rwgnach oddifewn o ran Rhagluniaethau Duw tu ac atom. 2. I achwyn a murmur oddiallan in eu herbyn hwynt, y rhai 'n ill dau sydd raid eu gochelyd in ofalus.
Y goddefgar ddistaw ddygiad ymma ar gystuddiau a osodir yn wrthwyneb i ddau beth. 1. I rwgnach oddifewn o ran Rhagluniaethau Duw tu ac attom. 2. I achwyn a murmur oddiallan yn eu herbyn hwynt, y rhai 'n ill dau sydd raid eu gochelyd yn ofalus.
1. Rhaid i chwi ochelyd in ofalus rhag grwgnach oddifewn in erbyn trefniadau Rhagluniaeth Duw tu ag attoch, pa dymmestloedd bynnag sydd o'r tu allan i chwi, je ac in chwythu arnoch, etto eich calonnau chwi oddifewn a ddylent fôd in dawel ac in llonydd. Beth er bôd ymdriniaeth yr Arglwydd â chwi in dôst jawn? etto ni ddylech chwi mor grwgnach wrth hynny, and ymostwng iddo in llonyddaidd ac in ddistaw, gan gydnabod âg uniondeb Duw in ei ymddygiad tu ac attoch, fall megis ac y mae ef in gyfiawn in ei holl ffyrdd, felly in neilltuol tu ag attoch chwi; ac am hynny chwi ddylech ddywedyd gŷd â hên Eli,