A85479:292
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Fell y mae'n rhaid i chwi ymochel in ofalus rhag grwgnach oddifewn, felly hefyd rhag cwynfan a murmur oddi allan tan dôst driniad Rhagluniaeth Dduw. Megis na ddylech chwi dybied in galled am Dduw, fell pe bay ef in eich cospi uwchlaw eich haeddiant, neu in fwy nag y gellwch ei ddwyn, felly ni ddylech chwi chwaith mor adrodd geiriau anfodlongar in erbyn ymdriniaeth yr Arglwydd â chwi; canys er bod in rhydd i Gristion alaru tan Ragluniaethau trymion, er hynny ni ddylai ef duchan in eu herbyn; er gallu o hono ef riddfan, etto ni eill ef mor grwgnach; and dwyn in llonydd bob colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau, yngwrthwyneb i bob grwgnach oddifewn a murmur oddiallan.
2. Fel y mae'n rhaid i chwi ymochel yn ofalus rhag grwgnach oddifewn, felly hefyd rhag cwynfan a murmur oddi allan tan dôst driniad Rhagluniaeth Dduw. Megis na ddylech chwi dybied yn galed am Dduw, fel pe bai ef yn eich cospi uwchlaw eich haeddiant, neu yn fwy nag y gellwch ei ddwyn, felly ni ddylech chwi chwaith mor adrodd geiriau anfodlongar yn erbyn ymdriniaeth yr Arglwydd â chwi; canys er bod yn rhydd i Gristion alaru tan Ragluniaethau trymion, er hynny ni ddylai ef duchan yn eu herbyn; er gallu o hono ef riddfan, etto ni eill ef mor grwgnach; ond dwyn yn llonydd bob colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau, yngwrthwyneb i bob grwgnach oddifewn a murmur oddiallan.
3. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau in Gristianogaidd, rhaid i chwi eu dwyn hwynt in ewyllysgar ac in llawen. Ich cymmorth in hyn, cymmerwch yr ychydig ystyriaethau ymma.
3. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau yn Gristianogaidd, rhaid i chwi eu dwyn hwynt yn ewyllysgar ac yn llawen. Ich cymmorth yn hyn, cymmerwch yr ychydig ystyriaethau ymma.
1. Nad oes dim cystuddiau in digwydd i nêb heb doeth Ragluniaeth Duw in ei trefnu, megis ag y mae Eliphaz in arwyddocau,