A85479:296
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Fell y mae. Duw in bwriadu ein daioni ni drwy hynny, felly darfyddo iddo weithio yr hyn a fwriadodd Duw drwyddo ef, efe a symmud eich cystudd in fuan oddi wrthych: Oblegid nad ydyw'r Arglwydd in cymmeryd hyfrydwch na hoffder in eich gofidiau a'ch dioddefiadau, and y mae 'n hoff ganddo drugaredd, Mic. 7. 18. Ac am hynny ni oddefiff ef, ac ni all mor goddef iw law in cystuddio orphywys arnoch chwi ddim hwy, nag in ei ddoethineb y gwelo ef in angenrheidiol ac in anhepcor, o ran dwyn i ben y daioni hwnnw y mae ef in ei fwriadu drwy hynny; ac am hynny os yw eich cystuddiau in ymddangos in her i chwi, gwybyddwch, nad ydynt ddim hwy nac y mae in rhaid, ac na weithiwyd mor daioni hwnnw, o ran yr hwn yr anfonodd Dnw hwynt.
3. Fel y mae. Duw yn bwriadu ein daioni ni drwy hynny, felly darfyddo iddo weithio yr hyn a fwriadodd Duw drwyddo ef, efe a symmud eich cystudd yn fuan oddi wrthych: Oblegid nad ydyw'r Arglwydd yn cymmeryd hyfrydwch na hoffder yn eich gofidiau a'ch dioddefiadau, ond y mae 'n hoff ganddo drugaredd, Mic. 7. 18. Ac am hynny ni oddefiff ef, ac ni all mor goddef iw law yn cystuddio orphywys arnoch chwi ddim hwy, nag yn ei ddoethineb y gwelo ef yn angenrheidiol ac yn anhepcor, o ran dwyn i ben y daioni hwnnw y mae ef yn ei fwriadu drwy hynny; ac am hynny os yw eich cystuddiau yn ymddangos yn hir i chwi, gwybyddwch, nad ydynt ddim hwy nac y mae yn rhaid, ac na weithiwyd mor daioni hwnnw, o ran yr hwn yr anfonodd Dnw hwynt.
4. Gwnaiff Duw nail ai cymmhwyso eich cystuddiau at fesur eich nerth, neu eich nerth at fesur eich cystudd, heb osod ychwaneg arnoch nag y rhoddo ef i chwi allu iw ddwyn, in ôl a lefarodd yr Apostol, Fsyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temptio uwchlaw yr hyn a alloch, 1 Cor. 10. 13.
4. Gwnaiff Duw naill ai cymmhwyso eich cystuddiau at fesur eich nerth, neu eich nerth at fesur eich cystudd, heb osod ychwaneg arnoch nag y rhoddo ef i chwi allu iw ddwyn, yn ôl a lefarodd yr Apostol, Fsyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temptio uwchlaw yr hyn a alloch,