A85479:346
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Drwy yr henw a roddir ir Did cyntaf o'r wythnos, self, Did yr Arglwydd, Datc. 1. 10. Canys beth bynnag a gyfenwir in eiddo 'r Arglwydd in yr Scrythur Sanctaidd, Christ yw Awdur ac Ordeiniwr y peth hynny. Megis o ran Siampl, Swpper yr Arglwydd, oblegid iddo ef ei ordeinio; Pobl yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu dewis hwynt; Cennadon yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu hanfon hwynt. Ar yr unrhyw sail a rheswm y gelwir ar gyfenwad y did cyntaf or wythnos in Ddŷdd yr Arglwydd, a hynny nid drwy Greadigaeth, canys felly y mae pob dŷdd in eiddo ef or dechrevad, onid drwy Ddwyfol ordinhâd, oblegid ei ordeinio ef gan Grist yr Arglwydd, o ran Addoliad a Gwasanaeth Dwyfol, ac o ran coffadwriaeth am y gwaith mawr o Brynnedigaeth a weithiwyd ganddo ef. Cytuno â hyn y mae ymadrodd Augustin, yr hwn a ddywaid, may yr Apostolion a ordeiniodd Did yr Arglwydd iw gadw gydâ phôb parchedigaeth crefyddol, oblegid y did hwnnw y cyfododd ein Prynnwr oddiwrth y meirw, ac am ⟨p. 77⟩hynny y gelwir ef Did yr Arglwydd. Dominicum diem Apostoli religiosa solemnitate habendum sanxerunt, quia in eodem Redemptor noster a mortuis resurrexit, quique ideo Dominicus appellatur. Aug. Serm. 151. de Temp.
1. Drwy yr henw a roddir ir Dydd cyntaf o'r wythnos, sef, Dydd yr Arglwydd, Datc. 1. 10. Canys beth bynnag a gyfenwir yn eiddo 'r Arglwydd yn yr Scrythur Sanctaidd, Crist yw Awdur ac Ordeiniwr y peth hynny. Megis o ran Siampl, Swpper yr Arglwydd, oblegid iddo ef ei ordeinio; Pobl yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu dewis hwynt; Cennadon yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu hanfon hwynt. Ar yr unrhyw sail a rheswm y gelwir ar gyfenwad y dydd cyntaf or wythnos yn Ddŷdd yr Arglwydd, a hynny nid drwy Greadigaeth, canys felly y mae pob dŷdd yn eiddo ef or dechreuad, onid drwy Ddwyfol ordinhâd, oblegid ei ordeinio ef gan Grist yr Arglwydd, o ran Addoliad a Gwasanaeth Dwyfol, ac o ran coffadwriaeth am y gwaith mawr o Brynnedigaeth a weithiwyd ganddo ef. Cytuno â hyn y mae ymadrodd Augustin, yr hwn a ddywaid, mai yr Apostolion a ordeiniodd Ddydd yr Arglwydd iw gadw gydâ phôb parchedigaeth crefyddol, oblegid y dydd hwnnw y cyfododd ein Prynnwr oddiwrth y meirw, ac am ⟨p. 77⟩hynny y gelwir ef Dydd yr Arglwydd. Dominicum diem Apostoli religiosa solemnitate habendum sanxerunt, quia in eodem Redemptor noster a mortuis resurrexit, quique ideo Dominicus appellatur. Aug. Serm. 151. de Temp.