A85479:349
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ignatius, yr hwn oedd in byw in amser St. Joan, sy yn dywedyd, Omnis Christi amator Dominicum celebret Diem, reginam & principem dierum omnium, Ignat. Epist. 3. ad Magnes. Bydded i bob un a garo Grist gadw in sanctaidd Ddŷdd yr Arglwydd, yr hwn yw Brenhines y dyddiau. Eusebius in ei history eglwysig lib. 4. cap. 22. sydd in dangos in eglur y môdd y darfu ir Eglwys a Phobl Dduw, tros amryw oesoedd ar ôl amseroedd yr Apostolion gadw y did cyntaf o'r wythnos, megis wedi ei appwyntio gan Grist, ai ordeinio ar ôl hynny gan yr Apostolion. Myfi a allwn dreulio lawyer o bapir in dangos pa fodd y cadwyd y did ymma ym mhob oes, er amseroedd yr Apostolion hid y dyddiau hyn. Weithian defod wastadol yr Eglwys nid yw iw esceuluso. Yr ymadrodd hwnnw o'r eiddo'r Apostol, 1 Cor. 11. 16. Od oes neb a fin fod in ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod; na chan Eglwysi Duw, sy in dangos, fod defod yr Eglwys in beth i wneuthur cyfrif o hono.
Ignatius, yr hwn oedd yn byw yn amser St. Joan, sy yn dywedyd, Omnis Christi amator Dominicum celebret Diem, reginam & principem dierum omnium, Ignat. Epist. 3. ad Magnes. Bydded i bob un a garo Grist gadw yn sanctaidd Ddŷdd yr Arglwydd, yr hwn yw Brenhines y dyddiau. Eusebius yn ei histori eglwysig lib. 4. cap. 22. sydd yn dangos yn eglur y môdd y darfu ir Eglwys a Phobl Dduw, tros amryw oesoedd ar ôl amseroedd yr Apostolion gadw y dydd cyntaf o'r wythnos, megis wedi ei appwyntio gan Grist, ai ordeinio ar ôl hynny gan yr Apostolion. Myfi a allwn dreulio llawer o bapir yn dangos pa fodd y cadwyd y dydd ymma ym mhob oes, er amseroedd yr Apostolion hyd y dyddiau hyn. Weithian defod wastadol yr Eglwys nid yw iw esceuluso. Yr ymadrodd hwnnw o'r eiddo'r Apostol, 1 Cor. 11. 16. Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod; na chan Eglwysi Duw, sy yn dangos, fod defod yr Eglwys yn beth i wneuthur cyfrif o hono.
III. Adgyfodiad Christ sydd in rhoddi sail am sancteiddio ein Sabbath Cristianogawl ni, a hefyd sy in dangos rheswm am newidiad y diwrnod: Canys gwaith y Prynnedigaeth a weithiwyd