A85479:350
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
III. Adgyfodiad Christ sydd in rhoddi sail am sancteiddio ein Sabbath Cristianogawl ni, a hefyd sy in dangos rheswm am newidiad y diwrnod: Canys gwaith y Prynnedigaeth a weithiwyd ⟨p. 79⟩trwy Jesus Grist, ac ynteu in lawyer mwy rhagorol nâ gwaith y Creadigaeth, a haeddodd in fwy o lawyer gael wythnosawl goffadwriaeth. Bod gwaith y Prynnedigaeth in fwy rhagorol, sy in ymddangos, o ran costio mwy in prynnu y bid o Etholedigion Duw, nag in creu yr holl fŷd; canys i greu 'r bŷd ni chostiodd i Dduw and megis gair; Efe a orchymynnodd, a hwy a grewyd. Eithr i brynnu y bid o Etholedigion Duw, ni chostiodd ddim lay nâ gwerthfawr waed Mab Duw. Y mae'r gwaith hwn wedi llyngcu'r cyntaf, fell y darfu ir Deml lyngcu y Tabernacl. A ninnau y rhai ydym in byw ar ôl Adgyfodiad Christ, ydym mor rhwymedig i gadw y did cyntaf o'r wythnos, ac a oedd, y rhai oeddynt fyw o'r blaen, i gadw'r olaf.
III. Adgyfodiad Christ sydd yn rhoddi sail am sancteiddio ein Sabbath Cristianogawl ni, a hefyd sy yn dangos rheswm am newidiad y diwrnod: Canys gwaith y Prynnedigaeth a weithiwyd ⟨p. 79⟩trwy Jesu Grist, ac ynteu yn llawer mwy rhagorol nâ gwaith y Creadigaeth, a haeddodd yn fwy o lawer gael wythnosawl goffadwriaeth. Bod gwaith y Prynnedigaeth yn fwy rhagorol, sy yn ymddangos, o ran costio mwy yn prynnu y byd o Etholedigion Duw, nag yn creu yr holl fŷd; canys i greu 'r bŷd ni chostiodd i Dduw ond megis gair; Efe a orchymynnodd, a hwy a grewyd. Eithr i brynnu y byd o Etholedigion Duw, ni chostiodd ddim llai nâ gwerthfawr waed Mab Duw. Y mae'r gwaith hwn wedi llyngcu'r cyntaf, fel y darfu ir Deml lyngcu y Tabernacl. A ninnau y rhai ydym yn byw ar ôl Adgyfodiad Crist, ydym mor rhwymedig i gadw y dydd cyntaf o'r wythnos, ac a oedd, y rhai oeddynt fyw o'r blaen, i gadw'r olaf.
Peth hynodol jawn yw, ddarfod cadw seithfed did er anrhydedd i Dduw in wastad er y Creadigaeth; a'r cyfryw seithfed did ac na bu ûn wythnos in y newidiad heb Sabbath, ac ni bu erioed ddau Sabbath in yr un wythnos; canys megis ag y terfynodd yr wythnos ar y Sabbath or blaen, felly yr wythnos nessaf in canlyn a ddechrevodd â'n Sabbath ni.