A85479:351
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Peth hynodol jawn yw, ddarfod cadw seithfed did er anrhydedd i Dduw in wastad er y Creadigaeth; a'r cyfryw seithfed did ac na bu ûn wythnos in y newidiad heb Sabbath, ac ni bu erioed ddau Sabbath in yr un wythnos; canys megis ag y terfynodd yr wythnos ar y Sabbath or blaen, felly yr wythnos nessaf in canlyn a ddechrevodd â'n Sabbath ni.
Peth hynodol iawn yw, ddarfod cadw seithfed dydd er anrhydedd i Dduw yn wastad er y Creadigaeth; a'r cyfryw seithfed dydd ac na bu ûn wythnos yn y newidiad heb Sabbath, ac ni bu erioed ddau Sabbath yn yr un wythnos; canys megis ag y terfynodd yr wythnos ar y Sabbath or blaen, felly yr wythnos nessaf yn canlyn a ddechreuodd â'n Sabbath ni.
Os gofyn nêb paham y mae cyfnewidiad y diwrnod heb ei fynegi in eglurach in y Testament Newydd, fy atteb yw, oblegid nad oeddid in cwestiwnu dim ynghylch y peth in amseroedd yr Apostolion; yr hyn a ddichon hefyd wasanaethu megis rheswm paham nad oes yr un gorchymmyn eglur in y Testament Newydd am fedyddio Plant bychain in bennodol, self, o herwydd nad oedd dim cwestiwnu ynghylch hynny in amseroedd yr Apostolion.
Os gofyn nêb paham y mae cyfnewidiad y diwrnod heb ei fynegi yn eglurach yn y Testament Newydd, fy atteb yw, oblegid nad oeddid yn cwestiwnu dim ynghylch y peth yn amseroedd yr Apostolion; yr hyn a ddichon hefyd wasanaethu megis rheswm paham nad oes yr un gorchymmyn eglur yn y Testament Newydd am fedyddio Plant bychain yn bennodol, sef, o herwydd nad oedd dim cwestiwnu ynghylch hynny yn amseroedd yr Apostolion.
Deuwn in awr at yr Hyfforddiadau pa fodd i sancteiddio Did yr Arglwydd. I sancteiddiad yr hwn y gofynnir daubeth. 1. Cadw gorphwysfa. 2. Cysegru yr orphwysfa honno i addoliad a gwasanaeth Duw.