A85479:353
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Deuwn in awr at yr Hyfforddiadau pa fodd i sancteiddio Did yr Arglwydd. I sancteiddiad yr hwn y gofynnir daubeth. 1. Cadw gorphwysfa. 2. Cysegru yr orphwysfa honno i addoliad a gwasanaeth Duw.
Deuwn yn awr at yr Hyfforddiadau pa fodd i sancteiddio Dydd yr Arglwydd. I sancteiddiad yr hwn y gofynnir dau beth. 1. Cadw gorphwysfa. 2. Cysegru yr orphwysfa honno i addoliad a gwasanaeth Duw.
I. Mae'n rhaid bod gorphwyso, a hynny oddiwrth amryw bethau: megis,
1. Oddiwrth holl orchwylion cyffredinol ein Galwedigaethau, yr hyn a osodwyd ar lawr in y Gorchymmyn; Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith onid y seithfed ⟨p. 80⟩did yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw, na wnâ ynddo ddim gwaith: self, oath. alwedigaeth. Ac na bydded i neb wneuthur lliw o fawredd eu siars, megis in escus am a wnelont; Onid gwybyddwch in siccr, na bid ir hyn a ennilloch drwy eich llafur y did hwnnw, gyfrannu and ychydig tu ag at eich Siars chwi. Canys pa beth bynnag a enniller ar y did hwnnw, ni fendithia yr Arglwydd mo hono, eithr efe a fydd megis llafn aur Achan, yr hwn gan ei fôd wedi ei gael yngwrthwyneb i orchymmyn Duw, a ddygodd dân o felltith Dduw ar y cwbl oll ar a ennillasai ef in gyfreithlon.
1. Oddiwrth holl orchwylion cyffredinol ein Galwedigaethau, yr hyn a osodwyd ar lawr yn y Gorchymmyn; Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith onid y seithfed ⟨p. 80⟩dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw, na wnâ ynddo ddim gwaith: sef, oth. alwedigaeth. Ac na bydded i neb wneuthur lliw o fawredd eu siars, megis yn escus am a wnelont; Onid gwybyddwch yn siccr, na bydd ir hyn a ennilloch drwy eich llafur y dydd hwnnw, gyfrannu ond ychydig tu ag at eich Siars chwi. Canys pa beth bynnag a enniller ar y dydd hwnnw, ni fendithia yr Arglwydd mo hono, eithr efe a fydd megis llafn aur Achan, yr hwn gan ei fôd wedi ei gael yngwrthwyneb i orchymmyn Duw, a ddygodd dân o felltith Dduw ar y cwbl oll ar a ennillasai ef yn gyfreithlon.