A85479:357
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Oddiwrth bob bwytta ac yfed in anghymhedrol, drwy yr hyn yr ydym ni in gymmhwysach i gysgu nag i wilied ar Ordinhadau Duw. Ac o herwydd hynny mor feius ydynt hwy, y sawl a wnânt Did yr Arglwydd in did o Wledda eu cymmydogion a'u cyfeillion? canys er bod in rhŷdd gwneuthur ar y did ymma y cyfryw arlwy ac a fo cymmwys in teuluoedd ein hunain, neu o ran cynnhorthwy ein cymmydogion tlodion, etto dilys yw, ei fod in anghyfreithlon gwneuthur gwleddoedd mawr hybarch ⟨p. 81⟩ar y did ymma (fell y mae gormod in arferu) drwy yr hyn y delir gwasnaethyddion oddiwrth yr Ordinhadau cyhoeddus, ac yr ydym ni ein hunain a'n gwahoddedigion in anghymhwysach i ddyledswyddau Addoliad a Gwasanaeth Duw. Ac am hynny er na waherddir i ni gynneu tân ar did yr Arglwydd i drwssio bwyd, er hynny mae in rhaid i ni ochelyd gwneuthur y cyfryw fflam ar a ennynno dân digofaint Duw in ein herbyn ni.
3. Oddiwrth bob bwytta ac yfed yn anghymhedrol, drwy yr hyn yr ydym ni yn gymmhwysach i gysgu nag i wilied ar Ordinhadau Duw. Ac o herwydd hynny mor feius ydynt hwy, y sawl a wnânt Ddydd yr Arglwydd yn ddydd o Wledda eu cymmydogion a'u cyfeillion? canys er bod yn rhŷdd gwneuthur ar y dydd ymma y cyfryw arlwy ac a fo cymmwys in teuluoedd ein hunain, neu o ran cynnhorthwy ein cymmydogion tlodion, etto dilys yw, ei fod yn anghyfreithlon gwneuthur gwleddoedd mawr hybarch ⟨p. 81⟩ar y dydd ymma (fel y mae gormod yn arferu) drwy yr hyn y delir gwasnaethyddion oddiwrth yr Ordinhadau cyhoeddus, ac yr ydym ni ein hunain a'n gwahoddedigion yn anghymhwysach i ddyledswyddau Addoliad a Gwasanaeth Duw. Ac am hynny er na waherddir i ni gynneu tân ar ddydd yr Arglwydd i drwssio bwyd, er hynny mae yn rhaid i ni ochelyd gwneuthur y cyfryw fflam ar a ennynno dân digofaint Duw yn ein herbyn ni.
4. Oddiwrth bob geiriau bydol, ac ymddiddan am bethau daiarol, yr hyn y mae yr Arglwydd ei hun in ei wahardd drwy 'r Proph. Isaiah, Pen. 58. 13. Heb ddywedyd dy eiriau dy hun, yr hyn sy in arwyddocau siarad ac ymddiddan am fatterion bydol ar y did Sabbath; Canys lle mae yr Arglwydd wedi gorchymmyn ir holl ddŷn orphywys oddiwrth orchwylion bydol, yno y mae ef in gorchymmyn, megis ir law orphywys oddiwrth weithio, felly ir tafod oddiwrth ymddiddan am fatterion bydol: Eithr in y pedwerydd Gorchymmyn, y gorchymynnodd yr Arglwydd ir holl ddŷn orphywys oddiwrth fydol weithredoedd, lle y mae ef in dywedyd, Na wna ddim gwaith, &c. Am hynny y mae ef in gorchymmyn ir tafod orphywys oddiwrth chwedleva am bethau bydol, in gystal ac ir law oddiwrth weithio caethwaith a gorchywylion bydol. Mor feius gan hynny yw y rhai sy in gwneuthur Dŷdd yr Arglwydd in did o wneuthur cyfrif a gweithwŷr, a gwasnaethyddion, neu or hyn lleiaf in did o ymweled eu cyfeillion a'u cymmydogion, ac felly in ddilynawl in did o segur siarattach ynghylch eu helw a'u dyfyrrwch, neu fatterion rhai eraill?