A85479:365
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Dyledswyddau o Dduwioldeb ydynt o dry mâth, self.
Dyledswyddau o Dduwioldeb ydynt o dri mâth, sef.
1. Cyhoeddus. 2. Neilltuol. 3. Dirgel. Y rhai oblegi• eu bôd in eu cŷlch in gymmysc â'u gilydd, am hynn• mi a lefaraf am danynt in eu cŷlchoedd.
1. Cyhoeddus. 2. Neilltuol. 3. Dirgel. Y rhai oblegi• eu bôd yn eu cŷlch yn gymmysc â'u gilydd, am hynn• mi a lefaraf am danynt yn eu cŷlchoedd.
Y dyledswyddau iw cyflawni mewn ford o baratóad yw y rhai hyn.
Y dyledswyddau iw cyflawni mewn ffordd o baratóad yw y rhai hyn.
1. Cofio y did ym mlaen law, fell y galloch chwi felly drefnu a lluniaethu eich bydol negesevon, in y cyfryw fôdd ac y dibenner hwynt mewn amser cyfaddas ar y noswyl o flaen y Sabbath, fell y galloch chwi a'ch gweision fined i'ch gwely y cyfryw amser, ac y gallo eich cyrph gael eu llonni in dda â chwsg, a'ch meddyliau gael eu cymmhwyso i ddyledswyddau 'r diwrnod. Hyn y mae 'r Arglwydd in ei arwyddocau in nechrau y pedwerydd Gorchymmyn, gan ddywedyd Cofia y did Sabbath iw sancteiddio ef; ym mha le drwy ei gofio ef, y gellir deal meddwl am dano ef ym mlaen law. Mor feius gan hynny ydynt hwy, y rhai a ymeisteddant ei hunain, ac a gadwant eu gweision ai morwynion ar eu traed cyn hwyred o nôs o flaen y Sabbath, ag y bo in rhaid iddynt orwedd in eu gweláu in hŵy ar y did Sabbath, nag ar ddyddiau eraill, je a phan ddelont i'r gynnulleidfa, y maent in gymmhwysach i gysgu nag i wrando; Ai cofio y Sabbath iw Sancteiddio ef yw hyn?