A85479:368
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Cofio y did ym mlaen law, fell y galloch chwi felly drefnu a lluniaethu eich bydol negesevon, in y cyfryw fôdd ac y dibenner hwynt mewn amser cyfaddas ar y noswyl o flaen y Sabbath, fell y galloch chwi a'ch gweision fined i'ch gwely y cyfryw amser, ac y gallo eich cyrph gael eu llonni in dda â chwsg, a'ch meddyliau gael eu cymmhwyso i ddyledswyddau 'r diwrnod. Hyn y mae 'r Arglwydd in ei arwyddocau in nechrau y pedwerydd Gorchymmyn, gan ddywedyd Cofia y did Sabbath iw sancteiddio ef; ym mha le drwy ei gofio ef, y gellir deal meddwl am dano ef ym mlaen law. Mor feius gan hynny ydynt hwy, y rhai a ymeisteddant ei hunain, ac a gadwant eu gweision ai morwynion ar eu traed cyn hwyred o nôs o flaen y Sabbath, ag y bo in rhaid iddynt orwedd in eu gweláu in hŵy ar y did Sabbath, nag ar ddyddiau eraill, je a phan ddelont i'r gynnulleidfa, y maent in gymmhwysach i gysgu nag i wrando; Ai cofio y Sabbath iw Sancteiddio ef yw hyn?
1. Cofio y dydd ym mlaen llaw, fel y galloch chwi felly drefnu a lluniaethu eich bydol negeseuon, yn y cyfryw fôdd ac y dibenner hwynt mewn amser cyfaddas ar y noswyl o flaen y Sabbath, fel y galloch chwi a'ch gweision fyned i'ch gwely y cyfryw amser, ac y gallo eich cyrph gael eu llonni yn dda â chwsg, a'ch meddyliau gael eu cymmhwyso i ddyledswyddau 'r diwrnod. Hyn y mae 'r Arglwydd yn ei arwyddocau yn nechrau y pedwerydd Gorchymmyn, gan ddywedyd Cofia y dydd Sabbath iw sancteiddio ef; ym mha le drwy ei gofio ef, y gellir deall meddwl am dano ef ym mlaen llaw. Mor feius gan hynny ydynt hwy, y rhai a ymeisteddant ei hunain, ac a gadwant eu gweision ai morwynion ar eu traed cyn hwyred o nôs o flaen y Sabbath, ag y bo yn rhaid iddynt orwedd yn eu gweláu yn hŵy ar y dydd Sabbath, nag ar ddyddiau eraill, ie a phan ddelont i'r gynnulleidfa, y maent yn gymmhwysach i gysgu nag i wrando; Ai cofio y Sabbath iw Sancteiddio ef yw hyn?
2. Ar eich deffroad cyntaf y borau, derchefwch eich calonnau at Dduw mewn Gweddi a Diolchgarwch, am yr orphwysfa ar cwsg cyssurus hwnnw a ganiatáodd efe i chwi y nôs a aeth heibio. Canys, efe yw yr hwn sy in rhoddi hûn iw anwylyd, a'i dosturiaethau a ddevant bob boreu, Psal. 127. 2. Galar. 3. 23. Ac yna erfyniwch gan Dduw am gael cymmorth ei Yspryd, i'ch dwyn chwi drwy holl ddyledswyddau 'r diwrnod.