A85479:372
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Cyn gynted ac y codoch ar eich traed a'ch bod in barod, ewch or neilltu i ryw gyfle ar eich pennau eich hunain, [neu wrthych eich hunain] ac yno darllennwch ryw gyfran o'r Scrythyrau, yr hyn a fydd in fôdd rhagorol i dymmeru eich calonnau, ac i osod eich meddyliau mewn trefn; je â thrwy hyn y byddwch chwi wedi eich paratoi in well i wrando y gair a bregether, ac in gallu profi in well yr Athrawiaethau a draddoder, in ôl cyngor yr Apostol, Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sy dda, 1 Thes. 5. 21.
5. Cyn gynted ac y codoch ar eich traed a'ch bod yn barod, ewch or neilltu i ryw gyfle ar eich pennau eich hunain, [neu wrthych eich hunain] ac yno darllennwch ryw gyfran o'r Scrythyrau, yr hyn a fydd yn fôdd rhagorol i dymmeru eich calonnau, ac i osod eich meddyliau mewn trefn; ie â thrwy hyn y byddwch chwi wedi eich paratoi yn well i wrando y gair a bregether, ac yn gallu profi yn well yr Athrawiaethau a draddoder, yn ôl cyngor yr Apostol, Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sy dda, 1 Thes. 5. 21.
6. Megis y mae Gweddi in ddyledswydd iw chyflawni bob borau, felly in enwedigol y borau did yr Arglwydd; yr hyn sydd mewn rhywfesur i fôd in berthnasol ir diwrnod. Gwedi i chwi gan hynny gyrfesu eich pechodau, er erfyn pardwn am danynt, ynghŷd â gallu in eu herbyn, a grâs i wasanaethu Duw: yna gweddiwch tros y Gwenidog a throsoch eich hunain.
6. Megis y mae Gweddi yn ddyledswydd iw chyflawni bob borau, felly yn enwedigol y borau ddydd yr Arglwydd; yr hyn sydd mewn rhywfesur i fôd yn berthnasol ir diwrnod. Gwedi i chwi gan hynny gyrfesu eich pechodau, er erfyn pardwn am danynt, ynghŷd â gallu yn eu herbyn, a grâs i wasanaethu Duw: yna gweddiwch tros y Gwenidog a throsoch eich hunain.