A85479:38
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Ystyriwn, y gallwn ni, trwy weddi ar gip meddwl, neu saith-weddiau, bôb amser, ac ym mhôb rhyw le, self in ein ymdriniaeth â dynion, ymdrîn befyd â Duw y prŷd hynny, a mwynhau cymdeithas sanctaidd ag ef, ac etto eraill in y cwmpeini heb wybod oddiwrth hynny. Fall hyn Nehemiah ynghanol ei ymddiddanion â'r Brenin, a weddiodd ar Dduw y nefoedd, drwy dderchafu ei gallon at Dduw mewn rhyw weddi a saethodd ef allan in ddisymmwth, Pen. 2. 4. Ac fell hyn tra 'r ydwyt ti in siarad â dynion ynghylch masnach fydol, neu ryw beth arall, a phan wit ti ar waith dy alwedigaeth, tidy a eli, heb ddim rhwystr ith orchwylion, drwy dderchafu dy gallon at Dduw, mewn anadliadau ysprydol neu weddiau byrrion, ymddiddan ag ef a mwynhau cymmundeb comfforddus a'r Arglwydd, 2 chael ei gymmorth ai fendith ef in ac ar dy negesevau ath orchwylion.
I. Ystyriwn, y gallwn ni, trwy weddi ar gip meddwl, neu saeth-weddiau, bôb amser, ac ym mhôb rhyw le, sef yn ein ymdriniaeth â dynion, ymdrîn befyd â Duw y prŷd hynny, a mwynhau cymdeithas sanctaidd ag ef, ac etto eraill yn y cwmpeini heb wybod oddiwrth hynny. Fal hyn Nehemiah ynghanol ei ymddiddanion â'r Brenin, a weddiodd ar Dduw y nefoedd, drwy dderchafu ei galon at Dduw mewn rhyw weddi a saethodd ef allan yn ddisymmwth, Pen. 2. 4. Ac fel hyn tra 'r ydwyt ti yn siarad â dynion ynghylch masnach fydol, neu ryw beth arall, a phan wyt ti ar waith dy alwedigaeth, tydi a elli, heb ddim rhwystr ith orchwylion, drwy dderchafu dy galon at Dduw, mewn anadliadau ysprydol neu weddiau byrrion, ymddiddan ag ef a mwynhau cymmundeb comfforddus a'r Arglwydd, 2 chael ei gymmorth ai fendith ef yn ac ar dy negeseuau ath orchwylion.
2. Y mae gweddiau o'r faith hyn in anghenrheidiol o achos peryglon a throchfeydd disymmwth, y rhai y dygir pobl Dduw lawyer gwaith iddynt, y rhai ni chaniadhânt mor amser i weddi barháus, ac in enwedig oblegid v llygredigaeth sydd in eu calonnau nhwy, ac y sydd in eu tueddu au gogwyddo nhwy i bôb mâth o bechod
2. Y mae gweddiau o'r fath hyn yn anghenrheidiol o achos peryglon a throchfeydd disymmwth, y rhai y dygir pobl Dduw lawer gwaith iddynt, y rhai ni chaniadhânt mor amser i weddi barháus, ac yn enwedig oblegid v llygredigaeth sydd yn eu calonnau nhwy, ac y sydd yn eu tueddu au gogwyddo nhwy i bôb mâth o bechod