A85479:380
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Ystyriwch wrth fined i bale yr ydych in mined, self, Nid i fair neu Farchnad, onid i Dŷ Dduw, lle y mae Duw ei hun in bresennol i'ch canfod, jell y mae Duw ei hun in llefaru drwy enau ei Weinidogion.
2. Ystyriwch wrth fyned i ba le yr ydych yn myned, sef, Nid i ffair neu Farchnad, onid i Dŷ Dduw, lle y mae Duw ei hun yn bresennol i'ch canfod, ie lle y mae Duw ei hun yn llefaru drwy enau ei Weinidogion.
3. Ewch â pharodrwydd calon, ac â llwyrfrŷd meddwl i dderbyn pob gwirionedd a hyspyser i chwi allan o air Duw. A'r cyfryw gallon y daeth Cornelius i wrando ar Petr, Act. 10. 33. Yr ŷm ni oll in bresennol ger bron Duw, i wrando ar yr holl bethau a orchymynwyd i ti gan Dduw, ebe Cornelius wrth Petr. Ac fe a ddywedir am y Beroeaid, Ddarfod iddynt dderbyn y gair gyd â phob parodrwydd meddwl, Act 17. 11.
3. Ewch â pharodrwydd calon, ac â llwyrfrŷd meddwl i dderbyn pob gwirionedd a hyspyser i chwi allan o air Duw. A'r cyfryw galon y daeth Cornelius i wrando ar Petr, Act. 10. 33. Yr ŷm ni oll yn bresennol ger bron Duw, i wrando ar yr holl bethau a orchymynwyd i ti gan Dduw, ebe Cornelius wrth Petr. Ac fe a ddywedir am y Beroeaid, Ddarfod iddynt dderbyn y gair gyd â phob parodrwydd meddwl, Act 17. 11.
4. Gwedi ych dyfod i Dŷ Dduw, gosodwch eich hunain. megis yngwydd a cher bron Duw, yr hwn nid yw in unic in dal ar eich arweddiad a'ch ymddygiad oddiallan, eithr hefyd sydd in deal holl ddychymygion eich calonnau, ac in gydnabyddus â phob meddwl gwibiog wrth weddio, gwrando, a gwneuthur dyledswyddau sanctaidd eraill, ⟨p. 86⟩