A85479:388
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Ffydd sydd rinwedd arall angenrheidiol o ran gwrando y gair er llesâd, ffŷdd, meddaf, drwy yr hon yr ydym ni, nid in unic in credu fod yr hyn a ddyfger i ni allan o'r Gair in wîr, onid yr ydym ni hefyd in ei gymmhwyso atom ein hunain, megis ped fai wedi ei gyfeirio atom ni mewn mod enwedigol. Gallu Duw yw'r Efengyl er Jechydwriaeth, medd yr Apostol, Rhuf. 1. 16. eithr i bwy? i bob un ar sydd in credu Ac medd yr Awdur at yr Hebraeaid, Heb. 4. 2. Y Gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-tymmeru â ffydd in y rhai a'i clywsant. Ynghalon y sawl y mae gwir ffŷdd, y dŷn hwnnw a gymhwysa holl Air Duw atto ei hun, pan bynnag fyddo ai bygythion y Gyfraith, iw ddychrynnu ef oddiwrth bechod, ynteu hyfryd addewidion yr Efengyl iw ddenu ef at sancteiddrwydd, ac felly y mae 'n gwneuthur▪ Lawyer o elw o bob Pregeth a glywo. Hyn am eich ymdygiad in y Gynnulleidfa gyffredin.
4. Ffydd sydd rinwedd arall angenrheidiol o ran gwrando y gair er llesâd, ffŷdd, meddaf, drwy yr hon yr ydym ni, nid yn unic yn credu fod yr hyn a ddyfger i ni allan o'r Gair yn wîr, onid yr ydym ni hefyd yn ei gymmhwyso attom ein hunain, megis ped fai wedi ei gyfeirio attom ni mewn modd enwedigol. Gallu Duw yw'r Efengyl er Iechydwriaeth, medd yr Apostol, Rhuf. 1. 16. eithr i bwy? i bob un ar sydd yn credu Ac medd yr Awdur at yr Hebraeaid, Heb. 4. 2. Y Gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-tymmeru â ffydd yn y rhai a'i clywsant. Ynghalon y sawl y mae gwir ffŷdd, y dŷn hwnnw a gymhwysa holl Air Duw atto ei hun, pa un bynnag fyddo ai bygythion y Gyfraith, iw ddychrynnu ef oddiwrth bechod, ynteu hyfryd addewidion yr Efengyl iw ddenu ef at sancteiddrwydd, ac felly y mae 'n gwneuthur▪ Llawer o elw o bob Pregeth a glywo. Hyn am eich ymdygiad yn y Gynnulleidfa gyffredin.
And ni wasanaetha i chwi orphywys ymma, gan dybied ddarfod i chwi drwy hynny sancteiddio'r did Sabbath. Canys y mae hefyd Ddyledswyddau Duwioldeb Neilltuol a Dirgel y rhai a ofynnir o ran gwir sancteiddio Did yr Arglwydd, am y rhai y dylaech chwi fôd in ofalus ac in gydwybodus, megis ac am y dyledswyddau cyhoeddus in y Gynnulleidfa gyffredin. Canys Duw sydd in gofyn yr holl ddiwrnod, ac nid darn o hono ef in unic. Megis gan hynny na byddech chwi fodlon, i'ch gweision weithio i chwi in unic awr neu ddwy ar bob un or chwe diwrnod: felly ni ddylaech chwithau roddi dim lay i Dduw, nag yr ydych in ei ofyn i chwi eich hunain. Wrth Ddyledswyddau. neilltuol o Dduwioldeb, yr wyfi in meddwl y rhai sydd iw cyflawni mewn Teulu neilltuol. Ac wrth ray Dirgel, y cyfryw ray ar a wneir mewn rhyw gyfle dirgel or neilltu, rhwng Duw ag ûn ei hun.