A85479:391
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Ail adrodd y Pregethau a glywsant gŷd âu teulu, au holy hwynt y nail ar ôl y llall am yr hyn a gofiasant, gan esponi hynny iddynt; yr hyn a ganmolir i ni drwy arfer a Siampl ein Harglwydd a'n Achubwr Jesus Grist, yr hwn pan aeth ir tŷ, a ddywedodd wrth ei Ddiscyblion, A ddarfu i chwi deal hyn oll? self, ar â bregethasai ef ir lluaws, Mat. 13. 36, 51. A S. Marc Pen. 4. 34. a ddywaid, Ac or neilltu iw ddiscyblion efe a eglurodd bob peth. Ar yr hyn y mae un in nodi, fod Christ drwy ei siampl in dyscu i bob Penteulu, pa fôdd i ymddwyn ei hunan tu ag at y rhai sydd tan eu llywodraeth ar Ddyddiau'r Arglwydd, ar ol iddynt ymado allan or Gynnulleidfa gyffredinol.
I. Ail adrodd y Pregethau a glywsant gŷd âu teulu, au holi hwynt y naill ar ôl y llall am yr hyn a gofiasant, gan esponi hynny iddynt; yr hyn a ganmolir i ni drwy arfer a Siampl ein Harglwydd a'n Achubwr Jesu Grist, yr hwn pan aeth ir tŷ, a ddywedodd wrth ei Ddiscyblion, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? sef, ar â bregethasai ef ir lluaws, Mat. 13. 36, 51. A S. Marc Pen. 4. 34. a ddywaid, Ac or neilltu iw ddiscyblion efe a eglurodd bob peth. Ar yr hyn y mae un yn nodi, fod Crist drwy ei siampl yn dyscu i bob Penteulu, pa fôdd i ymddwyn ei hunan tu ag at y rhai sydd tan eu llywodraeth ar Ddyddiau'r Arglwydd, ar ol iddynt ymado allan or Gynnulleidfa gyffredinol.
A llesaad triphlŷg in ddiau a ddilyn ar hyn.
A llesaad triphlŷg yn ddiau a ddilyn ar hyn.
1. Och rhan eich hunain; canys po mwyaf a adeiladoch chwi ar eraill, mwyaf yr adeiledir chwi eich hunain mewn Gwybodaeth, ffydd, ac ym mhôb grass Duw.