A85479:392
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A llesaad triphlŷg in ddiau a ddilyn ar hyn.
A llesaad triphlŷg yn ddiau a ddilyn ar hyn.
1. Och rhan eich hunain; canys po mwyaf a adeiladoch chwi ar eraill, mwyaf yr adeiledir chwi eich hunain mewn Gwybodaeth, ffydd, ac ym mhôb grass Duw.
1. Och rhan eich hunain; canys po mwyaf a adeiladoch chwi ar eraill, mwyaf yr adeiledir chwi eich hunain mewn Gwybodaeth, ffydd, ac ym mhôb gras Duw.
2. O ran eich plant a'ch gweision, canys hynny a bair iddynt wrando in ddyfalach ar yr hyn a draddodir in y Gynnulleidfa gyffredin, os gwyddant y gelwir hwynt i gyfrif am hynny pan ddelont adref.
2. O ran eich plant a'ch gweision, canys hynny a bair iddynt wrando yn ddyfalach ar yr hyn a draddodir yn y Gynnulleidfa gyffredin, os gwyddant y gelwir hwynt i gyfrif am hynny pan ddelont adref.
3. Hyn a'ch cynnorthwyai chwi a'ch gweision befyd in fawr jawn i deal a chredu yr hyn a glywsoch in gyhoeddus, os chwi a'i hail-adroddwch gartref, ac a chwedleuwch in ei gylch, a holy 'r profiadau a osodwyd i lawr, i gadarnhau yr hyn a adroddwyd.