A85479:397
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, bod in gyfreithlon canu Psalmau sydd •• ymddangos allan or Scrythur, drwy Ecsampl, a Rhesymmau.
Yn gyntaf, bod yn gyfreithlon canu Psalmau sydd •• ymddangos allan or Scrythur, drwy Ecsampl, a Rhesymmau.
1. Am Brofiadau o'r Scrythur y maent in lawyer, in yr Hên Destament a'r Newydd hefyd; Eithr i ado y rheini in yr Hên Destament heb sôn am danynt, am nad allant brofi mor argyoeddus eglurawl. In y Newydd, ninny a'i cawn wedi ei gorchymmyn gan yr Apostol at yr Ephesiajd; Ephes. 5. 19. Gan lefaru wrth ei gilydd mewn Psalmau, a Hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a phyngcio in eich calon ir Arglwydd. Ac medd yr Apostol Jaco, Jac. 5. 13. A oes neb in eich plith mewn adfyd? Gweddied. A oes neb in esmwyth arno? caned Psalmau. Lle y gwelwn ni hyn in orchymmynedig mewn ymadroddion eglur, a'i bod in ddyledswydd yr Efengyl.
1. Am Brofiadau o'r Scrythur y maent yn llawer, yn yr Hên Destament a'r Newydd hefyd; Eithr i ado y rheini yn yr Hên Destament heb sôn am danynt, am nad allant brofi mor argyoeddus eglurawl. Yn y Newydd, nyni a'i cawn wedi ei gorchymmyn gan yr Apostol at yr Ephesiajd; Ephes. 5. 19. Gan lefaru wrth ei gilydd mewn Psalmau, a Hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a phyngcio yn eich calon ir Arglwydd. Ac medd yr Apostol Jaco, Jac. 5. 13. A oes neb yn eich plith mewn adfyd? Gweddied. A oes neb yn esmwyth arno? caned Psalmau. Lle y gwelwn ni hyn yn orchymmynedig mewn ymadroddion eglur, a'i bod yn ddyledswydd yr Efengyl.