A85479:407
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. In awry deuwn at yr Hyfforddiadau am yr uniawn fodd o gyflawni yr unrhyw, yr hyn a osodir ar lawr gan yr Apostol in y geiriau hyn, Gan ganu trwy râs in eich calonnau i'r Arglwydd, Col. 3. 16.
II. Yn awr y deuwn at yr Hyfforddiadau am yr uniawn fodd o gyflawni yr unrhyw, yr hyn a osodir ar lawr gan yr Apostol yn y geiriau hyn, Gan ganu trwy râs yn eich calonnau i'r Arglwydd, Col. 3. 16.
1. Rhaid iddo fôd gan hynny in gyntaf in y gallon; neu á'r gallon, self, rhaid yw i'n calonnau fined gyd â'n lleisiau, rhaid yw ir nail gael ei derchafu in gystal a'r Ilall. Canys Yspryd yw Duw, ac am hynny y mine ef ei addoli â'n calonnau ac a'n hysprydoedd, in gystal ac a'n cyrph. A diammau nad yw canu âr llais, heb gyd gordiad y gallon a'r yspryd, ddim mwy in rhyngu bodd Duw, nag efydd in feinio neu symbal in tingcian.
1. Rhaid iddo fôd gan hynny yn gyntaf yn y galon; neu á'r galon, sef, rhaid yw i'n calonnau fyned gyd â'n lleisiau, rhaid yw ir naill gael ei derchafu yn gystal a'r Ilall. Canys Yspryd yw Duw, ac am hynny y myn ef ei addoli â'n calonnau ac a'n hysprydoedd, yn gystal ac a'n cyrph. A diammau nad yw canu âr llais, heb gyd gordiad y galon a'r yspryd, ddim mwy yn rhyngu bodd Duw, nag efydd yn feinio neu symbal yn tingcian.
2. Megis ac y mae in rhaid i ni ganu âr galòn, felly hefyd â grâs in y gallon, hynny yw, rhaid yw i ni arfer rhadau sanctaidd Yspryd Duw wrth ganu, in gystal ac wrth weddio; gan ymegnio ar osod allan yr unrhyw search in canu y Psalm, ac a wnaeth Dafydd in ei scrifennu ni; megis os bŷdd hi in Psalm o Gifts, yna bod in dangos peth gostyngeiddrwydd a drylliad Gallon ac yspryd in ei chanu hi. Os bŷdd hi in Psalm, O Weddiau ac erfyniadau, yna mae in rhaid i'n serchiadau fôd in wresog. Os Psalm o foliant a diolchgarwch, yna y mae in rhaid i'n calonnau ni fod in llawen. Ac fell hyn y mae 'n rhaid i search y gallon fôd in wastad in gyfaddas i gynneddfen y Psalm.