A85479:412
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Heb law y rhai Cyffredinol a neilltuol, mae hefyd ddyledswyddau Dirgel i bob un iw cyflawni ar ei ben ei hun in eu Stefyll neu eu Celloedd; y rhai ar fir yw y rhai hyn.
Heb law y rhai Cyffredinol a neilltuol, mae hefyd ddyledswyddau Dirgel i bob un iw cyflawni ar ei ben ei hun yn eu Stefyll neu eu Celloedd; y rhai ar fyr yw y rhai hyn.
1. Darllen rhyw gyfran o Air Duw, neu Lyfrau da eraill.
2. Myfyrio ar yr hyn a glywsoch ac a ddarllennasoch y did kwnnw; yr hyn sydd fodd rhagorol i wneuthur y Gair a ddarllenner ac a bregether in fuddiol i chwi. Canys megis am fwyd, er jached fyddo, nid yw in ein maethu, oddieithr iddo ddygymmod â ni a threulio in ein cylla: felly y mae am Air Duw, ymborth ein eneidiau ni, oddieithr ei dreulio a'i ddosparthu drwy fyfyrdod, ni wnaiff ef ronyn o lês i ni; onid ar ôl ei dreulio drwy fyfyrdod, yna y bid ef in rymmus i faethu ein eneidiau ni.
2. Myfyrio ar yr hyn a glywsoch ac a ddarllennasoch y dydd kwnnw; yr hyn sydd fodd rhagorol i wneuthur y Gair a ddarllenner ac a bregether yn fuddiol i chwi. Canys megis am fwyd, er iached fyddo, nid yw yn ein maethu, oddieithr iddo ddygymmod â ni a threulio yn ein cylla: felly y mae am Air Duw, ymborth ein eneidiau ni, oddieithr ei dreulio a'i ddosparthu drwy fyfyrdod, ni wnaiff ef ronyn o lês i ni; onid ar ôl ei dreulio drwy fyfyrdod, yna y bydd ef yn rymmus i faethu ein eneidiau ni.